Penwythnos prysur... Caerdydd ac yn ol
Mae yna ryw eironi i'r ffaith mae y prysuraf ydych chi'r mwyaf o bethau sydd gyda chi son amdanynt ar eich blog; ond oherwydd eich bod chi yn brysur yn gwneud gwahanol bethau dy' chi ddim yn cael amser i son am yr holl bethau diddorol yma ar eich blog wedi'r cyfan! Dyna pam fy mod yn postio'r neges yma wedi 2 o'r gloch y bore - mae'r diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai difyr a phrysur a dim ond nawr dwi'n cael munud fach i bostio blog cyn mynd am gwsg.

Ers fy neges ddiwethaf dwi wedi bod i Gaerdydd am rai diwrnodau. Nos Wener roeddem ni, Kenavo, yn chwarae yng Nghlwb y Twcan fel rhan o noson abri CYIG. Aeth y noson yn iawn, dim byd arbennig, ond ni aeth unrhyw beth o'i le fel y cyfryw chwaith. Braf oedd gweld fy ewythr yna i'n cefnogi, mae'n byw yng Ngenefa ond roedd nol yng Nghymru i weld ei Dad (fy Nhadcu) sy'n reit wael ar hyn o bryd.

Ar y dydd Sadwrn roeddem ni wedi cael cynnig recordio i Bandit. Dwi'n meddwl fod y recordiad yma wedi mynd yn dda iawn, ond ychydig yn flêr oedd y cyfweliad gyda Huw Stephens wedi hynny! Wnâi ddim dweud mwy. Ar ôl gorffen yn Bandit Clwb Ifor oedd y fangre, roedd Cynan (fy mrawd) yn rapiwr gwadd gyda MC Sleifar - wedi cryn bendroni penderfynais beidio mynd i'r noson roeddwn wedi ymladd. Yn lle fe es i am bryd o fwyd gyda teulu fy Nghariad i fwyty Groegaidd ar Heol y Crwys - neis iawn! Ar ôl mynd i Gapel Gwenllïan (Ebeneser, Annibynwyr) fore Sul fe gychwynnon ni nol am Aberystwyth.

Heno fe chwaraeais gig i 'Cwyn Swyddogol'... sawl stori am y band hynod yma i'w hadrodd rywbryd eto – dyma lun am y tro.

Wythnos yma dwi wedi bod yn brysur yn paratoi astudiaeth i'r Undeb Cristnogol ac mae hi hefyd yn wythnos NAWS, felly dwi'n trio cael y ffansin yn barod. Dwi'n gobeithio ffitio ambell i ddarlith mewn hefyd os fedrai!
No comments:
Post a Comment