3.3.05

Duw dal i garu Cymru

Mae mwy o bobl bob dydd yn dweud wrtha i eu bod nhw yn darllen fy mlog. Rhyw bythefnos yn ôl darganfyddais fod rhai o'm darlithwyr yn ei ddarllen a heddiw daeth rhai bois o'r gyntaf fyny ata i i ddweud eu bod nhw'n ei ddarllen. Felly maddeuwch i mi os ydw i'n ysgrifennu i gynulleidfa ar adegau!


Dwi wedi ymladd. Wn i ddim pam yn union - ond mae hi wedi bod yn wythnos reit brysur ac mae yna benwythnos prysurach ar y gweill. Sawl peth ar fy meddwl heno, mae Tad-cu yn ddifrifol wael heddiw, Mam wedi mynd i lawr i Gaerdydd bore ma’. Mae Tad-cu yn dipyn o arwr i mi ac i eraill, mae'n ddyn galluog iawn ac yn gawr o Gristion fuodd yn tystiolaethu i Dduw yng Nghymru ers yn ifanc iawn. Fe wnai son mwy amdano rywbryd eto ar y blog.


Heno mae yna griw o'n Undeb Cristnogol ni yn teithio fyny i Fangor i gynorthwyo yr Undeb Cristnogol yna i wneud Tost a Te. Bychan iawn ydy nifer aelodau'r Undeb Cristnogol yn Bangor felly dwi'n falch iawn ein bod ni'n medru cyd-weithio a bod yn hwb iddyn nhw fod yn dystiolaeth i Dduw fyny ym Mangor.


Dwi'n teimlo rhyw fendith arbennig yng nghyfarfodydd yr Undeb Cristnogol yn ddiweddar ac yn teimlo y bod gan Dduw gynlluniau ar ein cyfer yn fuan. Does dim ots genna i pa mor frwd ydy Richard Wyn Jones i gael rhywun i wneud papur ymchwil ar y 'Gymru Ol-Gristnogol' - dwi ddim yn credu fod Duw wedi cefni yn ein herbyn am byth - mae'n siŵr o ddod 'nôl yn rymus rhywbryd os nad yn fuan.

No comments: