7.3.05

Marw sydd elw

‘Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw’ - Philipiaid 1:21

Bu fy Nhad-cu farw oriau man y bore ddydd Gwener.


Bu'n löwr ers yn ei arddegau cynnar wedyn yn ei ugeiniau daeth yn Gristion ac yna cafodd alwad i fod yn Weinidog. Bu'n weinidog ym Mhontardawe, Llanelli ac yna yn Rhydaman. Roedd yn Galfin, ac yn falch iawn o'r label Efengylaidd.


Mae'n golled enfawr i ni fel teulu, ond mae hefyd yn golled i waith Duw yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae Nhad-cu yng ngogoniant, na allwn ni ei amgyffred, bellach - a diolch i Dduw am hynny. Yn hynny medrwn ni fel teulu gael cysur.


Bydd yn cael ei gladdu ym Bethany Rhydaman bore dydd Iau, ochr yn ochr â Nantlais Williams a J.T Job, dynion eraill y defnyddiodd Duw yn rymus fel tystiolaeth ymysg y Cymry. Wedyn bydd gwasanaeth yng Nghapel yr Heath yng Nghaerdydd yn y prynhawn gyda Sulwyn Jones, cyfaill agos i Nhad-cu yn pregethu.

No comments: