15.3.05

Tad-cu - ychydig o'i hanes (pennod un)

Ganwyd Tad-cu yn 1927. Bu farw ei Dad yn ifanc iawn felly roedd rhaid i Tad-cu, a'i frawd Alun gynnal y teulu, ac felly pan ddim ond yn 14 mlwydd oed fe adawodd yr ysgol i ddechrau gweithio ym mhwll Glo Blaenhurwain, Cross Hands. Roedd ei fam yn Gristion ac oherwydd hynny roedd Tad-cu wedi ei fagu yng ngweithgarwch y capel. Gofynnodd ei Weinidog iddo os oedd wedi ystyried mynd i mewn i'r weinidogaeth, fe'u derbyniwyd gyda hyn i hyfforddi i fod yn Weinidog yng Ngholeg Trefeca, hen gartref Howell Harris. Aeth i hyfforddi i fod yn weinidog cyn iddo ddod yn Gristion! Ond wedi tystiolaeth cyd fyfyrwyr daeth i adnabod Iesu ei hun.


Cychwynnodd ar ei weinidogaeth pan yn 30, gweithiodd o fewn i enwad yr Eglwys Bresbyteraidd, er ei ddaliadau cryf a'i weithgarwch Efengylaidd. Ei ofalaethau oedd Pontardawe a Gwaun Cae Gurwen (57-68), Llanelli a Llangennech (68-81) a Rhydaman a Betws (81-94). Yn fuan wedi cychwyn yn ei ofalaeth gyntaf fe briododd Mam-gu.


Fe ddefnyddiodd Duw ei weinidogaeth fel cyfrwng i achub llawer, dros y bythefnos ddiwethaf mae llwyth o bobl wedi dod ataf yn son am ryw dro neu'i gilydd pan gyffyrddodd pregethu Tad-cu a nhw yn arbennig, llawer wedi son am gyfres rymus y gwnaeth yng Nghynhadledd y Mudiad Efengylaidd yn 1991 ac eraill wedi son am ei bregeth yng Nghyfarfod dathlu canmlwyddiant geni Dr Martyn Lloyd-Jones. Yn ystod ei gyfnod yn Llanelli daeth yn ddylanwadol iawn ar bobl ifanc y dref - noda llawer yn eu llythyrau a'u cardiau atom ac at Mam-gu eu bod nhw wedi bod yn drwm dan ddylanwad, ac yn ddyledus iawn i Tad-cu pan yn un o griw ifanc Llanelli yn y saithdegau. Fe gynhaliodd Tad-cu sesiwn i bobl ifanc yn y Mans bob nos Sadwrn ac fe fynychai llawer - daeth llawer i'r bywyd o ganlyniad i'r cyfarfodydd yma ac fe aeth nifer sylweddol o'r bobl ifanc yma ymlaen i fod yn Weinidogion eu hunain.


Dyna ddigon am nawr... fe fydd y stori yn parhau!

No comments: