17.3.05

Tymor yn dod i ben

Mae'r tymor yma wedi hedfan. Dwi di bod wrthi heddiw yn pacio fy mhethau oherwydd mae yna gynhadledd neu rywbeth ym Mhantycelyn dros y gwyliau felly ma’ rhaid i ni symud popeth allan - tipyn o strach i fi heb sôn am bobl sy'n gorfod mynd a phopeth i ben arall y wlad! Dwi'n gobeithio mynd lawr i Gaerdydd am y penwythnos, felly rhaid i mi gael trefn ar bethau heno os ydw’i am gychwyn tua'r ddinas yn fuan fory!


Moel iawn yw'r muriau heb y posteri!


Bobi Jones sy'n siarad yn UCCA heno – disgwyl ymlaen yn arw.

No comments: