22.3.05

Penwythnos yn y Ddinas

Wedi marathon o bacio a glanhau llwyddais i adael Pantycelyn mewn un darn prynhawn ddydd Gwener. Erbyn 4.30pm roeddwn yn llenwi car Gwenllian a phetrol yn Morrisons ac erbyn 8.00pm roedden ni yng Nghaerdydd!


Fore dydd Sadwrn codo ni'n gynnar er mwyn mynd i fewn i'r ddinas er mwyn gwel y gem. Mae pawb sy'n fy adnabod yn gwybod yn iawn nad ydw i wedi cael fy nghynhyrfu gan unrhyw gem Rygbi ers oleiaf rhyw bum mlynedd bellach – ond fe ildiais, rhyw dipyn, ddydd Sadwrn. Fe wnaeth Cymru yn reit dda, tro cynta i mi glapio fy nwylo wrth wylio gem ers tro byd – amwni fod hynny yn dyst o'r gamp y cyflawnodd Cymru. Yr hyn welais i oedd yn fwy diddorol na'r gem yn y Ddinas dydd Sadwrn oedd Plaid Cymru yn canfasio. Roedden nhw wedi cynhyrchu tafleni pwrpasol ar gyfer y diwrnod yn dadlau y gall Cymru fod y gorau yn y byd ar y maes Rygbi oherwydd ein bod ni'n rheoli ein hunain OND o ran economi ayyb... ni allw ni fod y gorau yn y byd ar hyn o bryd oherwydd nad ydym ni yn rheoli ein hunain. Ro ni yn y gwely erbyn 9.00pm wedi blino'n lan!


Diwrnod reit ddioglyd dydd Sul. Ond roedd ddoe yn ddiwrnod difyrach – roedd Gwenllian yn gweithio mewn rhyw ffair yn UWIC felly roeddwn ni'n rhydd yn y ddinas! Roeddw ni am daro draw i weld Mamgu yn Yr Eglwys Newydd. Doedd dim car gyda mi felly dyma fi'n mynd ati i geisio deall trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas. Plan A oedd dal Bws, ar ol aros am ddeng munud i'r bws dyma fe'n dod a gyrru heibio heb stopio! Hurt o beth! Nid oedd bws arall yn dod am hanner awr, felly dyma droi at plan B.


Yr ail gynnig oedd dal Tren draw i Riwbina ac yna ceredded o fan yna draw i dy Mamgu. Cerddais o dy Gwenllian yn Cyncoed draw i'r orsaf agosaf oedd ar y run linell a tu Mamgu sef 'Heath Lower Level'. Tra'n aros am y tren dyma foi bach od yn trio gwerthu cyffuriau i mi...

“Do you smoke Ganja?” meddai.

“No - do you?” atebais.

“I was just wondering if you wanted to by some?”

A dyna'r tren yn cyraedd a ffwrdd a fi.

No comments: