19.4.05

Penwythnos (arall) yng Nghaerdydd

Mae'r tymor yma yn un prysur iawn cyn belled. 1/3 o draethodau wedi ei gwneud, newydd ddychwelyd o'r llyfrgell, wedi bod yn nol llyfrau ar Marx ar gyfer yr ail draethawd - ddim yn disgwyl ymlaen rhyw lawer i'r traethawd yma; does dim llawer o ddiddordeb da fi yn y pwnc a dweud y gwir mae'r ddau draethawd arall (Cymharu Lloyd George a Saunders ac astudiaeth o duedd pleidleisio pobl Aberystwyth) tipyn difyrrach; oherwydd eu bod nhw'n agosach at fy nghalon debyg.

Ta beth, un bach neis mas o'r ffordd, un bach cas wythnos yma a'r un Etholiadau wythnos nesa; wedyn cyfle i anadlu (ychydig) cyn yr arholiade! Aaaaa....

Bues i lawr i Gaerdydd dros y penwythnos; cyfarfod CYI bore Sadwrn a mynd lawr hefyd i ddathlu pen-blwydd Mam Gwenllïan. Tro cyntaf erioed i mi fod i swyddfa CYI yng Nghaerdydd; wedi ei gael mewn ewyllys fel dwi'n deall ond oherwydd nad oes digon o arian gan y Gymdeithas i gyflogi rhywun i fod yna mae'r swyddfa wedi bod yn wag ers blynyddoedd bellach. Ond gan fod Steffan wedi ei ethol yn gadeirydd newydd ac am ei fod yn byw yn y ddinas dy ni wedi archebu iMac a ffon felly gobeithio gallwn ni gael y swyddfa i weithio unwaith yn rhagor.

Prynhawn Sadwrn esi i weld y ffilm 'The Assasination of Richard Nixon'; ffilm dda iawn chware teg, portread critical o'r gymdeithas Americanaidd a yrrodd Dyn i herwgipio awyren ac yn y diwedd i ladd ei hun. Ffilm drist ond effeithiol iawn yn portreadu America.

Ar ôl y ffilm aethom ni ar y trên (oedd am ddim am ryw reswm?!) law'r i'r bae i ffeindio bwyd. Getho ni fwyd Cantonis mewn lle posh iawn ac roedd y bwyd yn fendigedig; y peth rhyfedd oedd bod y pris ddim drytach na bwyd Tsieiniaidd yma yn Aber er bod y safon 100% yn well.

Aethom ni i Ebeneser (Annibynwyr), capel Gwenllïan fore Sul. Roedden nhw'n dathlu 10 mlynedd o weinidogaeth Alun Tudur; un o feibion R. Tudur Jones. Mae Alun yn foi anhygoel o glen a daeth e ata i ar ddiwedd y gwasanaeth i siarad am Dad-cu - collodd Alun ei dad yn 1998 - soniodd fod ei Dad wedi gorchymyn iddynt, fel y gwnaeth fy Nhad-cu, nad oedd dim son amdano i fod yn ei angladd ond yn hytrach yr unig beth oedd am iddyn nhw wneud yn ei angladd oedd pregethu'r efengyl yr oedd ef wedi cysegru ei fywyd i'w gwasanaethu.

Wrth gwrs roedd Tudur Jones yn gawr; gymaint nes i Bobi Jones ei enwi mewn erthygl yn ddiweddar fel y ffigwr Gristnogol fwyaf blaenllaw yn yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru. Gallasid wedi cynnal gwasanaeth am flwyddyn a mwy yn son am waith Tudur Jones (gellid cynnal gwasanaeth hyd dragwyddoldeb yn son am Dduw wrth gwrs!) - ond nid son am Tudur Jones oedd y son yn ei angladd; fel yn yngladd Tadcu son am y Barnwr cyfiawn nid yr un oedd yn cael ei farnu oedd i fod. Mae un o wyrion Tudur Jones, Rhodri yn UCCA gyda mi; caffael da arall i'r etifeddiaeth Gristnogol yng Nghymru. Rwy'n pitio na chefais y cyfle i wrando ar Tudur Jones yn siarad; ond rwy'n argyhoeddedig mae nid efe fydd y cawr Cristnogol olaf yng Nghymru.

Daethom ni nol i Aberystwyth brynhawn Sul jyst mewn pryd i fynd i'r Cwrdd nos. Pregeth dda gan Andrew Lenny a chlap o emyn da i orffen:

Mwy, mwy,
am achub llawer mwy,
mae syched arno eto
am achub llawer mwy

W.W

No comments: