25.4.05

Plaid Cymru

Ers fy neges ddiwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ar fy nhraethodau fflat out. 2/3 wedi ei gwneud yn awr! Profodd yr un ar Farcsiaeth i fod yn ddifyrrach na'r hyn y tybiasai y byddai - canolbwyntiais ar feirniadaeth Marxs ar grefydd; pwnc sydd wrth gwrs o ddiddordeb arbennig i mi.


Nos Fercher roedd gig gyda ni yn y Cwps. Rhan o wythnos 'Un Byd' yr undeb; wythnos i hyrwyddo a dathlu gwahanol ddiwylliannau. Fe berfformio ni set arbennig ar gyfer y noson; chwaraeom ni ein caneuon yn defnyddio gwahanol synau a rhyddmau'r byd oedd ar fy allweddell - er nad oedd yna lawer yna dwi'n meddwl i bobl fwynhau; yn sicr fe wnes i.


Ond ar y dydd Iau torrodd y newyddion fydd yn peri i'r diwrnodau nesa aros yn fy nghof i byth. Marwolaeth Gwynfor Evans yn 92 mlwydd oed. Wrth edrych ar ddau gawr Plaid Cymru, Gwynfor a Saunders ochri gyda syniadaeth Gwynfor yn sicr ydw i; yn enwedig ei heddychiaeth. Wedi i'r newyddion dorri am Gwynfor bu i mi feddwl llawer eto am Tad-cu; mae fel petai Duw yn cipio ymaith genhedlaeth o arweinwyr ein cenedl ym mhob maes. Tadcu yn arweinydd Cristnogol, Gwynfor yn arweinydd gwleidyddol. Yn yr un modd y teimlais innau ddyletswydd i gario yr etifeddiaeth Gristnogol Brotestannaidd fy Nhad-cu ymlaen mae'n ddyletswydd yn ogystal i gynnal yr etifeddiaeth radical gwleidyddol oedd Gwynfor yn ei chynrychioli.


Rhaid i mi gyfaddef i mi fod dan gryn emosiwn yn canfasio gyda Seimon Thomas ddoe; mewn ffordd swreal mae colli Tadcu wedi fy ngwneud yn fwy angerddol ynglŷn â phopeth. Ar yr ochr wleidyddol mae colli Gwynfor yn sicr wedi fy sbarduno i roi mwy o help i'r Blaid; gobeithio yn wir y caiff y stori drist o'i golli ei drosi i fod yn elw i Blaid Cymru. Gesi sgwrs gyda Mabon un o wyrion Gwynfor yn Capel heno; wedi colli Tadcu mi oedd yna dristwch oedd; ond yn tywynnu trwy hynny roedd yna lawenydd a diolch - roedd hi'n galondid fod Mabon yn cael yr un profiad a chefais i wedi colli fy nhad-cu i.


Rwy'n bwriadu mynd i'r angladd dydd Mercher; dylai hi fod yn ddiwrnod bythgofiadwy.







No comments: