30.4.05

Cenedl i Grist

Dyma wythnos fawr yn hanes ein cenedl yn dirwyn i ben. Braint ar y mwyaf oedd cael bod yn bresennol yng nghladd Gwynfor ddydd Mercher; braint mwy byth oedd cael galwad ffôn y noson cynt yn gofyn i mi roi cymorth ar y diwrnod; dim byd rhamantus, dim ond aros yn y Glaw, gadael Winni Ewing i mewn a danfon Geraint Gruffydd, er mawr embaras i mi, i ffwrdd oherwydd bod y Capel yn llawn.


Dwi ddim wedi cael cyfle i edrych i weld pa fath o ddiwinyddiaeth oedd Gwynfor yn ei dilyn; ond rwyf wedi clywed mae simsan oedd ei ddysgeidiaeth, 'dros y lle i gyd' i ddyfynnu Richard Wyn Jones. Serch hynny, beth bynnag oedd ei ddiwinyddiaeth roedd yn ffigwr Gristnogol o bwys; roedd yn gydwybod Gristnogol yn y mudiad cenedlaethol - yr un olaf o bosib?!


Mae hyn yn fy mhoeni; er y graen gwych sydd ar rai o arweinwyr y Blaid heddiw, y tair seren yn fy marn i Seimon Th, Adam P ac Jill E; dydyn nhw ddim fel petaent hwy yn driw cymaint â hynny i'r traddodiad Cristnogol oedd Gwynfor yn dod ohoni. Bid siŵr fod safonau moesol STh, AP ac JE yr un peth a rhai Gwynfor, ac felly wedi ei seilio amw ni ar Gristnogaeth; ond efallai nad ydyn nhw mor ymwybodol o hynny ag yr oedd Gwynfor.


Rwy'n pur obeithio nad welodd y Blaid ddiwedd ar eu cydwybod Gristnogol gyda mynd Gwynfor. Rwy'n hyderus nad oes yna sylfaen i'm mhryder; maen na ddigon o Gristnogion ifanc gyda fi yn Coleg sy'n gweld pwysigrwydd y genedl.


Mae'r etifeddiaeth, diolch i Dduw, yn saff.


'Cyfiawnder a ddyrchafa genedl' - Diarhebion 14:34





No comments: