23.5.05

Arholiad, Gig a Bwyd

Rhaid i mi ail-gydio yn yr adolygu bore ma wedi penwythnos bant. Fe aeth arholiad bore dydd Sadwn yn oce, alle fe di bod yn haws ond dwi’n meddwl i mi fedru rhoi atebion go lew i’r cwestiynnau. Un stori fach ddoniol o’r arholiad oedd i Gruff Cymuned (clap o hogyn clen yn y 1af) dreulio ugain munud cyntaf yr arholiad yn ateb y papur anghywir!!! Sylwoddolodd mewn da bryd diolch byth.

Dyma’r Cwestiynnau nesi ateb:

  • Ystyriwch a chlorianwch yr ystod eang o gyfyngiadau gwleidyddol sydd ar arlywydd neu brif weinidog sy’n gweithio mewn democratiaeth ryddfrydol. Defnyddiwch enghreifftiau i ategu’ch ateb.

  • Clorianwch yn feirniadol yr honiad bod safle’r prif weinidog yn nghyfundrefn llywodraeth Prydain wedi datblygu i fod yn arlywyddiaeth de facto.


Wedi’r arholiad es i i’r Treehouse i gael cinio. Bwytdy Organic yw’r lle ac fe’m diddanwyd pan welesi ar dop eu bwydlen “You don’t have to ware sandals to eat here!” – ymosodiad da ar y sterioteip. Ond yn anffodus doedd staff y lle ddim yn gwneud lot i leddfu’r sterioteip; un hogan wedi shafio ei gwallt ffwr a’r bechyn a beirf a chlyst-lysau ac un arall ac affro mawr! Serch hynny roedd y bwyd yn neis iawn ac roedd y Cola Organic yn, wel, roedd yn wahanol – yn blasu fel y non-alcoholic wine dy ni’n cael yn capel adeg cymun!

Wedi chydig o amser yn crwydro’r dre fynny a fi efo Gwen, a’i Mam a’i Thad oedd yn Aber am y penwythnos i’r Llyfyrgell Gen. Etho ni am goffi ym Mhendinas (caffi ‘chwaethus’ y Gen fel ma Dad yn ei alw e) wedyn lan a ni i weld Encore. Encore ydy arddangosfa gyhoeddus ddiweddaraf y Gen; maen nhw’n arddangos rhai o’r trysorau cerddorol sydd ganddyn nhw yn y Vaults – o bosteri holl gigs CYI yn y 70au i faniwscript gwreiddiol Hen Wlad Fy Nhadau. Reit ddiddorol!

Nol a fi wedyn i Bantycelyn i baratoi ar gyfer y gig fawreddog. Roedd Seisamwndo yn dod i’r Cwps ac roedd Cwyn Swyddogol yn cefnogi. Bas oeddw ni i chware y tro hwn oherydd fod Mega-Arth na’r Dyn Gwyn Gwirion yn medru dod. Yn ol yr arfer hwyl mwy na dim oedd y set.

Ddim wedi gwneud fawr o ddim ddoe dim ond mynd adref am ginio a cheisio rhoi trefn ar fy ystafell gan fy mod yn symud adref am yr haf ddiwedd yr wythnos. Ma pawb di bod yn defnyddio fy ystafell fel stordy tra mod i ffwrdd – poen!

Reit, arholiad ar ‘Etholiadau’ fory, yr arholiad hawsa o bell ffordd felly dwi am ei chymryd hi’n ara heddiw dwi’n meddwl!

No comments: