25.5.05

Arholiad ac Afal

Wedi sefyll fy ail arholiad heddiw, yr arholiad hawsa o bell ffordd. Roedd en hawdd oherwydd mod i’n gweld y pwnc yn ddiddorol debyg. Dydw i’n sicr ddim yn gweld astudio arweinyddiaeth yn ddifr felly dyna pam o bosib roedd arholiad dydd Sadwrn tipyn yn anoddach. Roedd yr arholiad draw yn Llanbadarn eto heddiw, poen! Y stress ola ‘dy chi eisiau cyn arholiad ydy poeni ynglyn a cherdded draw i Lanbadarn neu ddal bws. Ond yn lwcus i mi gesi lifft draw gyda Dad!

Dyma’r Cwestiynnau nesi ateb heddiw:

  • Pam mae rhai pleidiau yn tueddu i wneud yn well, a rhai eraill yn waeth, mewn etholiadau i’r cyrff datganoledig yn yr Alban a chymru nag y maent fel arfer yn etholiadau San steffan yn y tiriogaethau hyny?

  • Pam mae cefnogaeth gyhoeddus i ddatganoli yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol ers 1997?

Cyn mynd i Lanbadarn esi a Dad adref, ac fe ffeindiom ni, or diwedd, dderbyneb fy Laptop. Oherwydd fy mod yn Ddislecsig rwy’n cael DSA sef grant tuag at bethau i fy helpu; e.e. offer i recordio darlithiau ayyb… Ond y pyrc mwyaf ydy cael cyfrifiadur! Ond fe brynais fy nghyfrifiadur cyn i mi wybod fy mod yn gymwys i dderbyn grant y DSA ac o ganlyniad cael Cyfrifiadur top-of-the range. Felly mae’r bobl sy’n gweinyddu’r DSA wedi cytuno i roi ad-daliad i mi am werth y Laptop a brynais fy hun. Ers misoedd lawer dwi ddim wedi gallu dod o hyd i’r dderbyneb – mae wedi bod yn ofnadwy, fel colli amlen sydd a £850 ynddo fe. Ta beth dwi wedi ei ffeindio nawr felly gobeithio fedrai gael yr arian yn ol dros yr wythnosau nesaf.

I ddarllenwyr cyson y blog ‘dy chi wedi clywed am yr helynt dwi wedi bod yn cael gyda’r cyfrifiadur dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, dyma grynodeb:

  • Gorffenaf 2004 – Batri yn stopio gweithio
  • Awst 2004 – Sgrin yn torri
  • Geaf 2004/2005 – Arafu lawr a gwneud synau od
  • Mai 2005 – Marw – Atgyfodi – Marw eto

Felly wedi trafod gyda Dad rwyf am ddefnyddio yr arian gai nol am y Laptop ar Laptop newydd! Ac wedi dwys ystyried rwyf wedi cael ‘troedigaeth’ ac rwyf am fynd am FacAfal tro hwn.

Yn ogystal ag edrych yn ‘cwl’ mae nhw tipyn mwy dibenadwy, yn gynt, yn cadw eu gwerth ac yn arbennigo ar wneud stwff dwi’n gwneud fel dylunio graffeg a chyfansoddi. Wedi dweud hynny mae’n nhw reit ddrud (peidiwch cael eich twyllo gan y Mini Mac am £400 oherwydd dydy e ddim yn cynwys sgrin a ballu; wedi i chi gynnwys sgrin mae dipyn drytach!!), bydd Laptop y pwer fydda i angen yn rhyw £999, ond dwi’n edrych ar y peth fel buddsoddiad. Hefyd, mae Afal yn rhoi 10% o ostyngiad i fyfyrwyr! Felly os ydy’r Laptop yn £999 gai £100 ffwrdd. Bydd genai £50 ar ol wedyn i brynu losin.

Dyma lun o’r un dwi’n meddwl ei gael, iBook G4 1.33GHz gyda DVD-R (yr un 14” ar y dde)…





Dwi’n ecsitid fel plentyn bach!

No comments: