26.5.05

Golau ym mhen draw'r twnel


Mewn 24 awr mi fyddai yn rhydd o’r diwedd! Er fod y gwaith yn solid dwi’n dechrau mynd yn ecsited am fy rhyddid a beth fyddai’n gwneud gydam rhyddid!

Ymysg y pethau cyntaf i ddisgwyl mlaen amdanynt ydy fy nhrip lawr i Gaerdydd! Dwi’n gobeithio mynd i’r gigs canlynol wythnos nesa:

Nos Iau – Llwybr Llaethog, Sleifar a’r Teulu, Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd

Nos Wener – Ashokan, Poppies a Radio Luxenbourg

Wedyn wythnos i ddydd Sul dwi’n mynd ffwrdd i Enefa! Gwych…

Un o’r pethau random eraill fyddai’n gwneud dros yr haf bydd bod yn Tour Manager i Manna – pwy yw Manna medde chi? Wel dilynwch fy mlog dros yr ha i gal gwbod ;-)

Bu bron i mi anghofio am yr e-bost anhygoel ges i gan hen ffrind ysgol heddiw, Ceri John. Mae e newydd ddod nol o Baris, aeth i weld Oasis ac fe lwyddodd e i gyfarfod y band. Danfonodd e luniau, Ceri yw’r un i’r dde o Liam Gallagher – anhygoel!




Reit nol i geisio ychydig mwy o Marx a Hegl!

1 comment:

dros said...

haha! cezbo-j! liam yn edrych fel fod e am ladd rhywun...