27.5.05

"Beth sydd i'w wneud?" - Lenin

Hwre hwre hip hip hwre!

O’r diwedd mae’r arholiadau wedi dod i ben! Aeth yr arholiad heddiw yn well na’r disgwyl, yn eironig ddigon wnes i ddim ateb cwestiwn ar Hegl yn diwedd ond yn hytrach dewis y rhai ar Gramsci a Lenin. Ond ta beth mae nhw drosto nawr AC DWI’N RHYDD!!! 'Beth sydd i'w wneud' oedd un o brif weithiau Lenin a dyna yw fy ngwestiwn i nawr fy mod yn rhydd!

Nawr fod y gwaith academaidd drosto man bryd i mi ail gydio yn y gwaith arall. Heno dwi di bod yn gwneud stwff i’r Gymdeithas, ac yn benodol i NAWS. Mae’r Naws nesa wythnos i fory ac oherwydd y bydda i ffwrdd o Aber wythnos nesa roedd rhaid i mi wneud y ffansin, posteri ayyb… wythnos yma cyn gadael. Dyma boster Naws mis yma….





Heno es i hefyd i gyfarfod Ffed Plaid Cymru, hei ho y pethau all ddyn wneud wedi i’r arholiadau ddod i ben! Roedd y cyfarfod yn ddifyr dros ben! Ers i Seimon golli dwi wedi bod yn reit ddrwgdybus/beirniadol o Elin Jones; ond heno dwi wedi gweld ochr arall iddi. Er enghraifft roedd hi’n gwrando arnom ni y myfyrwyr ac o drafod gyda hi roedd hi’n cytuno gyda fi ynglyn a lot ‘da’r Blaid. Mae heno felly wedi fy argyhoeddu, yng ngwyneb na wnaiff neb drio yn ei herbyn debyg am yr enwebiaeth, (Seimon di dweud yn sicr na wnaiff gyda llaw) mae’r peth gorau i wneud nawr ydy ymgyrchu am y ddwy flynedd nesa i gael Elin nol fewn. Tybed os fyddai dal yn byw yng Ngheredigion yn 2007?! Sceri.

Gadael Pantycelyn fory – fydd hi’n rhyfedd mynd adre am 4 mis! Mi fyddai’n colli’r lle ond yn bennaf mi fyddai’n colli’r rhyddid o fywyd coleg ac yn ei gweld hi’n boen cal Mam yn nagio fi am 4 Mis i neud yr hyn a’r llall.

Nos da!

No comments: