4.6.05

Wythnos yn y Ddinas



Dyma fi’n cael cyfle hanner munud i bostio neges. Mae di bod yn wythnos brysur lawr fan hyn yng Nghaerdydd, wedi blino’n lan. Fel y gallwch dybio nid cystadlu sydd wedi dod a fi lawr i’r steddfod ond yn hytrach gwaith(ish). Dwi di bod yn helpu mas da’r BYD ar y maes, roeddem ni rhy hwyr yn archebu stondin ond dy ni di cael cornel i roi ein stwff yn stondin y brifysgol, ddim yn ddelfrydol OND rhaid gwneud y gorau o’r sefyllfa yn toes.

Mae’r Steddfod yn rhyfedd iawn leni, yn ogystal ag edrych fel seit adeiladu ôl-Fodernaidd mae’r maes wedi ei wasgaru’n eang dros y Bae. Oherwydd hyn mae’r Gymdeithas mewn lle gwael iawn a thawel a does neb prun byth yn pasio heibio. Tra ar y llaw arall bod rhai stondinwyr yng nghanol y miri a’r prysurdeb – hyn ddim yn deg iawn i feddwl fod pob Stondinwr yn talu run peth am eu huned.

Dwi wedi cael digon o’r steddfod nawr dwi’n meddwl, dwi ddim wedi mynd mewn bore ma oherwydd ro’ ni eisiau hoe ond fe a’i drio ffeindio ffordd lawr i’r Bae ar y trenau p’nawma debyg. Mae bron yn bryd i fi adael am Enefa nawr!!! Ecsitied iawn! Fuesi a Gwen ddoe i gyfnewid arian a sortio allan yr E111 (er yn aflwydianus oherwydd doedd dim un ohonom ni’n gwbod ein rhif yswiriant cenedlaethol – wps!). Mae debyg fod tymheredd Genefa yn y 30au wythnos hyn - jyst neis!



No comments: