17.5.05

Arholiadau, Drewdod a Sosejis

Wel, mae’r adolygu yn mynd rhagddi yn ara deg. Wedi cael chydig o newydd da heddiw gyda marciau traethawd felly chydig o’r pwysau ffwrdd! Exitment heddiw ydy fod ystafell Andras (drws nesa) yn drewi; peips ei sinc di blocio neu rwbeth. Os di hynny yn exiting mae’n dweud y cyfan am gyfnod arholiadau amwni.

Getho ni farbeciw ar y traeth newithiwr, erbyn i’r BBQ boethi roedd hi wedi tywyllu felly anodd oedd barnu os oedd y sosejis yn barod – mae’r poenau sydyn yn fy mol heddiw yn awgrymu y dyle ni wedi gadael nhw mlaen am 5 munud arall. O wel…

No comments: