19.5.05

Hegel a'r Haf

Adolygu Hegl ar y funud, ac ddyfynnu Gwyn Matthews; “…Hegel yw’r anhawsaf o’r athronwyr mawr i’w deall.” Gret! Ond mae’n beth cysur mod i wedi ffeindio llyfr Cymraeg am Hegl, mae’n gwneud y gwaith darllen chydig yn fwy goddefol ac i ddweud y gwir mae Hegl yn reit ddiddorol hyd yma!

Wedi bwcio ein gwyliau I Enefa bellach I aros gyda fy Ewythr; methu aros! Mae hi wedi bod yn flwyddyn hollol mad leni rhwng gwaith coleg, stwff CYI, Y BYD, UCCA, Undeb, NAWS a gigs Kenavo (wel ddim llawer o gigs yn ddiweddar). Dwi’n disgwyl mlaen i gael dianc o Aber am bythefnos ar ol i’r arholiadau ddod i ben; ond byddai hefyd yn disgwyl mlaen i gael dod nol i ail gydio yng ngwaith Y BYD ayyb… heb orfod poeni am waith academaidd am y tro.

Dwi wedi penderfynnu peidio cymryd gwaith llawn amser haf yma, yn ariannol dwi angen gwaith llawn amser ond haf yma, yn wahanol i llynedd dwi ishe neud pethe heblaw am weithio.

Dwi mynd i weithio rhan amser i’r BYD a gyda gweddill yr amser allai roi fwy o sylw i waith CYI, Y GORLAN ac hefyd fy mhrosiectau hollol astrus academaidd megis fy ymgais i gasglu erthyglau Tadcu at ei gilydd a’i rhoi at ei gilydd a neud rhyw fath o lyfryn ‘an-swyddogol’ (dwi ddim yn gweld neb eisiau ei gyhoeddi fel petai a ta beth bydde dim syniad da fi sut ma mynd ati i gael hawlfraint a phethau felna).

Reit nol i Hegeleiddio…

No comments: