20.5.05

Ugyloda yn fy ngyru yn wirion!

Dwi di cal digon o adolygu nawr. Wythnos i nawr fe fydda i’n rhydd!! Ond rhwng heno ac wythnos i heno ma gyda fi dri arholiad yn anffodus. Dyma rannu un problem dwi’n ei gael wrth adolygu.

Wrth gymryd nodiadau yn y darlithiau dwi’n tueddu i dalfyru pethau; ond y broblem sy’n codi ydy hyn, erbyn i fi ddod rownd i edrych ar y nodiadau eto adeg yr arholiadau dwi ddim yn deall/cofio be mae’r talfyriadau yn ei olygu! Un hawdd efallai ydy ‘Ath Wl’ sef Athroniaeth Wleidyddol ac un arall fyddai ‘Gym Ddin’ sef y Gymdeithas Ddinesig. Ond heddiw des i ar draws rhai yn fy nodiadau oedd yn gwneud dim sens e.e. “Hegl yn credu ei bod hi’n beth da cael 2” – 2 be Rhys?!?!

Fel y gwelw chi isod dydy fy ysgrifen bler ddim yn llawer o help chwaith, dyna pam mod i wedi recordio llawer o’r darlithoedd OND i chi sy’n ddilynwyr cyson o’r blog (oce neb) fe wyddoch fod fy Laptop yn ware lan felly methu gwrando nol ar y darlithoedd…





Ond na ofidier canys rwyf wedi darganfod y llyfr gwych yma am Hegl yn y Gymraeg. Er fod y llyfr yn Gymraeg mae e dal yn andros o anodd i’w ddeall.



No comments: