9.5.05

Duwch

Mae hi wedi bod yn wythnos ddu iawn.

1. Y Blaid wedi gwneud yn drychunebus

2. Fy Laptop wedi marw!

Mae’n rhaid i Blaid Cymru newid, ac yn fy nhyb i mae yna dri mae’n rhaid cael gwared ohonynt os ydy’r blaid am godi o’r twll yma.

Ieuan Wyn Jones - Etholiad nesaf fydd un y cynulliad; fe yw arweinydd PC yn y cynulliad felly fe fydd yn cael ei weld ar y cyfryngau. Dylsai 2003 wedi bod yn ddigon o wers i'r Blaid; rhaid cael gwared o IWJ cyn gynted a bo modd ac yn sicr cyn i’r cyfryngau ddechrau’r ‘build-up’ i etholiadau’r cynulliad.

Dafydd Iwan - Unwaith eto cafodd gyfle i ddangos arweiniad ac fe fethodd. Dydy e ddim yn ddigon o wleidydd, rhaid i arweinydd plaid fod yn ymladd am bwer/sedd dwi'n meddwl.

Elin Jones - Dydy hi ddim y person mwyf caresmatig/deinamig ta beth heb son am y ffaith mae hi debyg fydd ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, sedd sy dan wir fygythiad. Os bydd Elin yn sefyll fe gollw ni Geredigion yn etholiadau'r cynulliad. RHAID i'r pwyllgor rhanbarth ddewis ymgeisydd gwahanol.

Ar y Laptop ffrynt – mae i fewn gyda dewiniaid adran gyfrifiadurol y Coleg yn gwneud copi wrth gefn o fy nisg galed er mwyn i mi ddileu popeth a dechrau eto. Achubwyr go iawn!

No comments: