15.5.05

Adolygu a disgwyl am yr haf!



Wythnos ddifryr a phrysur arall wedi pasio. Dim ond fix dros dro ddaeth i’r laptop; dwi wedi rhoi lan ceisio ei drwsio tan ar ol yr arholiadau nawr ac wedi methyg un dad tan bo fi’n cael amser i roi trefn ar fy un i.

Mae’r adolygu wedi symud ger bellach, ac fel arholiadau Ionawr mae’n debyg y byddaf yn postio tipyn mwy ar y blog dros y bythefnos nesaf o ganlyniad i fod eisiau gwneud unrhywbeth i gal hoi o’r adolygu!




Cyfarfod diddorol Cylch yr Iaith i drafod yr ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg bore ma. Penderfynwyd sefydlu ymgyrch wmbrella gyda Catrin Dafydd (ex-UMCA) fel cydlyndydd a gyda aelodau o sawl mudiad arall yn cyfrannu. Fi fydd yn cynrhychioli’r Gymdeithas. Dwi’n falch iawn mod i wedi medru newid o fod a swydd Deddf Iaith gyda’r Gymdeithas i gael swydd sydd yng ngofal yr ymgyrch CFfC. Allai wneud mwy o gyfiawnde i’r swydd yma na lwyddais i neud gyda Deddf Iaith; dyna’r gobaith p’run bynnag.




(Catrin Dafydd a Dafydd Glyn 'Ffederal' Jones)

Mae’r haf yn argoeli i fod yn ddifyr yn barod; mewn pythefnos yn syth bin ar ol gorffen yr arholiadau byddai’n gadael Aber am bythefnos. Byddai mynd i Gaerdydd am wythnos wedyn dwi’n gobeithio mynd i Genefa i aros fy Ewythyr – angen bwcio awyren cyn gynted a phosib! Mae’n rhyfeddol o rad mynd allan yna; dwi’n meddwl i mi gael return ar easyJet am rhyw £50 llynedd.

Reit nol i neud chydig o adolygu nawr…



No comments: