16.5.05

Pentacost a Thywydd braf

Mae hi’n Sul cofio’r Pentacost heddiw. Dyma’r rhan yn Actau 2 sy’n adrodd yr hanes:

1 Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. 2 Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn oedd fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle'r oedden nhw’n cyfarfod. 3 Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. 4 Dyma bawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.


5 Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. 6 Clywon nhw’r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am bod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. 7 Roedd y peth yn syfrdanol! "Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod?” medden nhw. 8 “Sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?” 9 (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, 10 Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Lybia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain 11 Â rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig a hefyd Cretiaid ac Arabiaid.) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!" 12 Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy’n mynd ymlaen?" medden nhw.
13 Ond roedd rhai yno’n gwatwar a dweud, "Maen nhw wedi meddwi!"

14 Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: "Fy nghyd-Iddewon, a phawb arall sy’n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n mynd I’w ddweud fe esbonia i i chi beth sy’n digwydd.

15 Dydy’r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi’n dweud. Mae’n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!
16 Na, beth sy’n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
17 'Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
Byddaf yn tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.
Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,
a dynion hyn yn cael breuddwydion.
18 Bryd hynny byddaf
yn tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,
yn ddynion a merched,
a byddan nhw’n proffwydo.

19 Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr
a phethau’n dangos fod Duw ar waith yn digwydd ar y ddaear
â
gwaed a th
ân a mwg yn lledu ym mhobman.
20 Bydd yr haul yn troi’n dywyll
a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed
cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod,
sef ‘Dydd yr Arglwydd’.

21 Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd
yn cael eu hachub.'

Mae hi wirioneddol yn ddiwrnod hyfryd heddiw, dyma yr olygfa allan o fy ystafell ym Mhantycelyn a finnau’n ceisio adolygu; mae’r greadigaeth yn beth pert ofnadwy onadiw e?






Mae hi’n Sul olaf Ifan ein Gweinidog heddiw, mae’n ymddeol. Diwrnod reit emosiynol yn wir! Nol at yr adolygu nawr…

No comments: