21.6.05

Aled Sam, Seimon Thomas a Wili Bin

Diwrnod adre heddi. Dwi ddim yn gweithio llawn amser haf yma oherwydd dwi am gael amser rhydd i wneud od jobs!

Heddiw dwi wedi golchi'r frij allan, trwsio y cwpwrdd dal cotiau ac ysgrifennu llythyr i Dafydd Wigely yn ei annog i sefyll yn yr etholiadau nesaf (gwnewch chi run peth!). Mewn munud dwi'n mynd allan i olchi'r wili bin! Ych... ond mae'n ymddangos fel sialens.

Ddoe es i a Gwen am dro i Ystrad Fflur. Eitha bizzare oherwydd pwy welo ni gyntaf oedd Aled Sam - “Helo shwd i ti?” medde fe yn llawn brwdfrydedd, “Iawn diolch” medde fi mewn syndod. Dwi'n meddwl ei fod e wedi fy ngham gymryd am rywyn oedd e'n adnabod, dwi rioed wedi siarad gyda'r boi o'r blaen.

Ar ol gwerthfawrogi'r adfail ymlaen a ni i weld bedd Dafydd ap Gwilym, ar y ffordd draw dyma ni'n rhedeg i mewn i'r ail seleb! Seimon Thomas! Dyma oedd y tro cyntaf i fi weld Seimon ers yr etholiad, panic, doeddw ni ddim yn siwr beth i ddweud wrtho. Roedd hi wedi mynd yn rhy hwyr bellach i siglo llaw ac estyn fy nghydymdeimlad, felly nesi ddim son am wleidyddiaeth o gwbl.

Ond wedyn beth oedd i'w son amdano? Doeddw ni rioed di siarad am ddim byd gyda Seimon heblaw am wleidyddiaeth. Wedi eiliad o ddistawrwydd anifyr dyma Seimon yn gofyn os oeddem ni wedi gorffen Coleg am y flwyddyn a dyma fi'n ateb ac yna yn dweud “Mae'n braf” (arwydd amlwg bo fi ddim yn gwbod beth i ddweud) ac yna ffarwelio a sleifio ffwrdd. Chware teg roedd Seimon yn edrych yn dda – fe'i welais o bell yn fuan wedi'r arholiad roedd yn edrych dan ofid mawr; ddoe roedd yn edrych fel ei hun eto.

Reit at y wili bin!

No comments: