Genefa – Dydd Iau (5)
Roedd ein hawyren yn gadael Genefa am 4.30 ac roedd angen i ni fod yn y maes awyr erbyn 3.30. Felly roedd gyda ni ddigon o amser i fynd ati i wneud rhywbeth Ddydd Iau cyn cychwyn adre. Fe benderfynom ni fynd at gable-car fyddai'n mynd a ni fynny un o'r mynyddoedd oedd yn edrych i lawr dros Enefa.
Gan ein bod ni'n gadael ac na fyddem yn gweld John a'r plant cyn mynd ar yr awyren gwnaethom ymdrech arbennig i ddeffro ddigon cynar i gael brecwast gyda nhw cyn iddyn nhw fynd i'r ysgol. Dyma Nolwen, Erwan a Yann cyn gadael am yr ysgol y diwrnod olaf.
Roeddem ni wedi gwneud ymdrech reit arbennig oherwydd roedden nhw yn gadael am yr ysgol cyn 8. Roedd y wers gyntaf yn cychwyn am 8.15!! Byddai pobl y wlad yma wedi codi mewn protest erbyn hyn pe tai ysgolion Cymru yn dechrau mor gynnar a hyn.
Wedi gwneud ein hunain yn barod draw a ni i ddal y tram unwaith yn rhagor i droed y mynydd. Roedd system dramiau/bws Genefa yn anhygoel, roeddech chi'n talu am eich tocyn cyn mynd ar y tram (roedd peiriannau hunan ddefnydd ym mhob gorsaf), ac yna yn neidio ar y tram nesaf, neb yn cymryd eich tocyn nac yn gwneud yn siwr eich bod chi wedi talu. Roedd y drefn yma yn golygu fod y system dramiau yn medru rhedeg yn gyson ac ar amser.
Fel yr esboniodd John doedd dim pwynt i bobl Genefa gymryd mantais o'r system a mynd ar y trams heb dalu oherwydd yn y diwedd nhw fyddai'n dioddef oherwydd na fyddai'r system dramiau yn rhedeg cystal. Mae'r drefn yn gwneud synnwyr bur, ond prin y gallaf ddychmygu y byddai trefn o'r fath yn medru gweithio yn ein cymdeithas ni ar Ynysoedd y Cedyrn. Rhyfedd sut mae gwahanol ddiwilliannau yn medru bod yn wahanol ar bethau rhyfedd ag gonestrwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus!
Bant a ni o'r tram a chroesi y ffin draw i Ffrainc ar droed. Dyma oedd yr olygfa wrth i ni nesau at orsaf waelod y cable-car.
Roedd hi'n dywydd reit oer yng Ngenefa ond roedd hi'n rhewllyd fynny ar dop y mynydd. Felly wedi cyraedd y top syth a ni i'r Caffi! Doedd dim bwrdd gwag, roedd y lle yn llawn dop o benshaniars! Felly wedi archebu ein coffi fe ffeindio ni wal i eistedd arno. Roedd y coffi yn lysh. Wedi llowcio'r coffi fe fentro ni allan i'r balconi i weld yr olygfa. Dyma Enefa o'r mynydd.
Dyma fi a Gwen gyda Genefa yn gefndir.
Ar ol aros fynny yna am rhyw hanner awr i lawr a ni a dal y tram nol i gannol y ddinas er mwyn cael cinio cyflym cyn dechrau gwneud ein ffordd i'r maes awyr. Un o'r pethau cwl am Genefa ydy fod yna ffynhonau o ddwr yfadwy dros y ddinas i gyd. Tro diwethaf pan oeddwn allan roedd hi'n grasboeth felly roeddwn yn llowcio o bob ffynon oeddwn i'n ei phasio; cyn gadael tro yma roedd rhaid i mi gael llond cegiad unwaith!
Rhoddodd Sophie lifft i ni draw i'r maes awyr. Ar ol ffarweliad sydyn i ffwrdd a ni i arwyddo mewn ac o fewn dim roedd y llyn mawr yn smotyn bach trwy ffenestr yr awyren. Roeddem ni wedi cael amser gwych, mae Genefa yn le hynod ac roedd hi'n wirioneddol cwl treulio amser gydag foreign leigion y teulu! Diolch i John a Sophie am ein dioddef ni!
Nol i reality bywyd Aberystwyth yn y blogiad nesaf debyg...
No comments:
Post a Comment