Genefa - Dydd Mercher (4)
Dydd Mercher roeddem ni wedi hanner meddwl mynd i Chamonix a Mont Blanc (Take 2), ond oherwydd mae dim ond hanner diwrnod oedd fy nghefndryd yn yr ysgol ar ddydd Mercher penderfynom ni aros yng Ngenefa er mwyn gwneud rhywbeth gyda nhw yn y prynhawn. Yn y bore aethom ni i amgueddfa'r Groes Goch, fe fuom ni yna y tro diwethaf i ni ymweld a Genefa ond oherwydd amser roedd rhaid i ni frysio trwy'r arddangosfa ddiddorol.
Felly tro yma roeddem ni am fynd yn ol er mwyn gwerthfawrogi'r amgueddfa yn iawn. Yn eironig fe getho ni hyd yn oed lai o amser y tro hwn! Fe'm cynghorwyd gan y gwr yn y ganolfan dwristiaeth i fynd fynny i'r Amgueddfa ar droed drwy un o barciau'r ddinas yn hytrach na dal tram. Dywedodd y dyn y buasai daith gerdded yn cymryd oddeutu hanner awr – roedd hi'n agosach at awr! O ganlyniad dim ond rhyw hanner awr getho ni yn yr amgueddfa ei hun.
Oherwydd bod amser yn dyn fe aetho ni yn syth draw at yr adran newydd oedd wedi agor ers i ni ymweld tro diwethaf. Roedd yr adran yma yn dilyn y rhyfeloedd sydd wedi digwydd ers 9/11, yn benaf y rhyfel yn Afganistan ac Irac. Roedd y lluniau yn hollol anhygoel ac yn gwneud i ni sylwi fwy fyth mae rhyfel ydy llofnod Satan yn wir. Un llun oedd yn arbennig o ddiddorol i mi oedd un o filwyr Americanaidd yn cael eu bedyddio yn Irac. Roedden nhw wedi cloddio twll mawr yn y tywyd, wedi ei leinio a bagiau plastig, ei lenwi a dwr ac ynddo wedyn roedd milwyr yn cael bedydd trochiad!
Nol a ni wedyn i gyfarfod John yn yr ysgol, adre am ginio cyflyn ac yna cychwyn i ????? (ddim yn cofio enw'r lle!). Roedd gan Nolwen, fy nghefnither wersi cerddoriaeth a nofio felly dim ond fi, Gwen, John, Erwan a Yann aeth ar y trip! Roedd ????? yn le del iawn, lle fydde chi'n disgwyl gweld mewn cerdyn post. Wele'r stryd isod...
Dyma luniau ohonom yn ?????. Yn y llun cyntaf mae Gwen, Yann a John. Ac yn yr ail mae Erwan a Yann.
Ar ol crwydro dipyn rownd y pentref i lawr a ni at y llyn. Yr holl droeon erill dwi wedi ymweld a Genefa mae hi wedi bod yn chwilboeth, ond y tro yma roedd hi'n wahanol. Roedd y tywydd yn weddol oer ac roedd gwyntoedd cryf main bob diwrnod. Roedd y gwyntoedd ddigon cryf i greu tonau bach ar y llyn – a cafodd Erwan a Yann ddigon o hwyl yn ceisio neidio rhag y tonnau.
Ar y ffordd nol fe ddygodd Erwan y camra a tynnu'r llun dibwynt isod. Ond wedi meddwl dydy'r llun ddim yn hollol ddiwerth oherwydd mae'n dangos ein bod ni wedi bod yn agos iawn i bentref Evian ple mae'r dwr Evian yn cael ei boteli. Mae'n debyg fod yna dap yn gannol y pentref ac fe all unrhyw un fynd a chwpan yna a chael cwpaned o ddwr Evian am ddim! Rhywbeth i wneud tro nesa ew ni allan.
Erbyn i ni fynd nol i Enefa roedd hi'n reit hwyr felly yn syth ar ol bwyta swper roedd hi'n amser i'r plant fynd i'w gwlau. Bob nos roedd y ddau leiaf yn mynnu mod i a Gwen yn darllen stori iddyn nhw – ciwt de!
No comments:
Post a Comment