Genefa – Dydd Mawrth (3)
Dyma oedd y trydydd tro i mi ymweld a Genefa, ac ail dro Gwen. Felly i bob pwrpas roeddem ni wedi gweld popeth oedd i'w weld yn y ddinas ei hun. Felly y cynllyn tro yma oedd teithio tipyn i'r trefi/pentrefi/mynyddoedd cyfagos. Penderfynom ni ein bod ni mynd i ddal tren 8.30 y.b. draw i Chamonix, mae Chamonix yn Lanberis o le oherwydd yn Chamonix mae modd dal tren bach fynny Mont Blanc, mynydd ucha Ewrop. Fynny yn Mont Blanc roedd modd mynd i weld Rhewlif (arwyddocaol iawn i bawb swydd wedi naillai dilyn cwrs TGAU neu Lefel A Dearyddiaeth CBAC!)
Ond yn anffodus ni wireddwyd y trip i Mont Blanc. Fe aeth John ag allweddi Sophie gyda fe drwy gamgymeriad i'r gwaith! O ganlyniad doedd dim modd i Sophie roi lifft draw i ni i ddal tren 8.30 y.b. Doedd y tren nesa ddim yn gadael tan 12.00, roedd y daith i Chamonix yn un ddwy awr felly rhaid oedd anghofio am Chamonix am heddiw. Ond roeddem ni yn benderfynol o fynd rhywle! Felly dyma edrych ar fap a gweld pa ddinasoedd oedd mewn pellter cyraedd hawdd, penderfynom ni ddal tren i Lussane, y ddinas oedd pen draw pella llyn Genefa.
Dyma ddal y tram o Muzolionz (yr orsaf agosaf at dy John a Sophie) draw i Coravin, prif orsaf drenau Genefa. Roedd trenau yn mynd o Genefa i Lussane bob 12 munud! Y pris oedd 80 Swiss Franc i'r ddau ohonom ni, sy'n oddeutu £20 return yr un – ddim yn ddrwg o gwbwl o ystyried safon uchel iawn y gwasanaeth tren. Dyma archebu ein tocynau yn y blwch, yn Saesneg wrth gwrs (och!) ac yna rhuthro fynny i'r platform i ddal y tren nesaf.
Wrth i'r tren nesau dyma fi'n dechrau cynhyrfu! Roedd e'n dren dybyl deker! Gadewch i mi esbonio arwyddocad hyn. Pan oeddw ni'n llai roeddw ni'n dwli ar raglenni Meical Peilin, 'Round the World in 80 days' ayyb... (dwi dal yn eu gweld nhw yn dra ddiddorol). Yn aml byddai MP yn teithio ar drenau enfawr dybyl deker fel yr un oeddem ni yn ei ddal i Lussane – roedd e mor cwl.
Wedi i ni gyraedd Lussane roedd symbolau'r Olympics yn bobman, enw'r lle yn yr holl lenyddiaeth dwristiaeth oedd '...the Olympic City'. Nawr os fu'r Olympics yn Lussane byddech yn tybio y buaswn wedi clywed am y ddinas cyn edrych ar y map y bore hwnw. Ond ar ol gwneud ychydig mwy o ddarllen dyma pethau'n dod yn glir, ni fu'r Olympics erioed yn Lussane ei hun ond yn hytrach yn Lussane mae pencadlys y Cyngor Olympaidd, y cyngor sy'n gyfrifol am drefnu a rheoleiddio'r gemau.
Mae'r ddinas wedi ei hadeiladu ar ochr bryn serth, yn anffodus roedd yr orsaf drenau ar y gwaelod a'r holl bethau diddorol ar y top felly'r orchwyl gyntaf oedd dringo'r bryn! Wedi cyraedd y top roedd syched ofnadwy ar y ddau ohonom ni felly aethom yn syth i gaffi i gael diod. Ymlaen a ni wedyn i weld yr Eglwys Gadeiriol, isod mae llun ohona i ar font ac yn y cefndir mae'r Eglwys.
Wedi i ni dreulio peth amser yn edmygu'r ffenestri lliw anhygoel oedd yn yr Eglwys i lawr a ni i ganol y dref i chwilio am ginio. Ar y ffordd i lawr be basio ni y Ci bach doniol (isod) ac hefyd prif adeilad Prifysgol Lussane, roedd hwn yn adeilad pert iawn fel y gwelwch yn y llun isod.
Wedi ychydig o edrych o gwmpas fe ffeindio ni gaffi reit rhesymol, am ryw rheswm roedd y bwyd yn rhatach na'r diodydd! Erbyn hyn roeddem ni wedi ymgyfarwyddo gyda ffordd od pobl y Swistir o brisio pethau. Roedd y Baget yma (isod) yn arbennig o flasus.
Ar ol i ni orffen y bwyd roedd hi bron yn dri o'r gloch ac yn y llyfrau twristiaeth roedd yna gloc arbennig yn perfformio sioe bypedau ar bob awr, yn ffodus roedd y caffi wrth droed y cloc. Yn bersonol doeddw ni ddim yn gweld beth oedd mor 'wa wi' am y peth. Isod mae llun o'r pypedau yn hedfan heibio.
Siopau oedd y peth olaf ar y rhestr cyn ymadael a Lussane, yn ffodus i mi ni dreulio ni lawer o amser yn siopa ac fe ddalio ni dren nol tua handi pedwar. Ar ol cyraedd Genefa nol a ni i dy John a Sophie ar y tram. Wrth gerdded o'r trem i'r ty fe basio ni'r bwytdy tandori isod wnaeth i mi gofio am Gymru!
No comments:
Post a Comment