Genefa – Dydd Llun (2)
Wedi’r teithio dydd Sul doedd dim awydd gyda ni godi ar frys bore Dydd Llun. Erbyn i ni godi roedd John a’r plant wedi mynd i’r ysgol a dim ond Sophie oedd yn y ty. Un o’r pethau mwyaf cwl am fynd allan i aros gyda John a Sophie ydy cael coffi ‘go-iawn’ bob bore! Wedi i ni gael brecwast rhoddodd Sophie Lifft i ni cyn belled a Grange Cannal ple roedd hi’n gweithio ac o fanna wnaetho ni ddal y tram i ganol y ddinas. Fel Prydeinwyr go iawn (!) y peth cynta wnaethom ni oedd mynd i’r siop ddillad H&M, roeddwn ni eisiau prynnu fflip fflops. Wedi chydig o grwydro a chasglu tafleni o’r ganolfan Dwristiaeth dyma ni’n mynd fynny i’r hen ddinas i chwilio am le i gael cinio.
Doedde ni ddim yn gwbod beth i ddisgwyl o ran bwyd nac o ran prisiau. Felly i bob pwrpas fe ddewiso ni y caffi cyntaf i ni basio. Archebais i Selsig mawr o’r Swistir gyda rhyw fath o Hash Brown anferth (gweler y llun isod), aeth Gwen am yr opsiwn iachach a chael salad gyda caws Gafr!
Wedi i ni gael cinio aetho ni i grwydro’n ddyfnach i fewn i’r hen ddinas. Fel Cristion Calfinadd roedd yna arwyddocad arbennig i’r hen Ddinas. Yma wrth gwrs yr oedd Calfin yn byw yn ystod y diwigiad Protestanaidd, ac yn Genefa y pregethodd ac ysgrifennodd Calfin ei weithiau sydd wedi bod mor ddylanwadol ar y Cymry byth ers hynny. Yn Genefa rhoddodd Calfin loches i lwythi o Gristnogion diwigiedig o’r gwledydd cyfagos oedd yn cael eu herlid gan Eglwys Rufain. Isod mae llun ohona i rhwng pileri Eglwys Calfin.
Wrth i ni fwyta ein cinio aeth un o’r trenau bach yna heibio sy’n mynd a twristiaid o gwmpas. Wedi i ni ymweld ac eglwys Calfin aetho ni i geisio ffeindio un o orsafodd y tren bach! Daethom o hyd i’r tren mewn dim o beth, isod mae yna ddau lun diddorol y tynais tra ar y tren. Y cyntaf ydy un o swyddfa’r BNP yn Genefa, na joc, jyst enw anffodus sydd gan un o fanciau’r Swistir. Yr ail ydy un o brif adeiladau Prifysgol Genefa, tipyn deliach nag adeiladau 60au/70au hyll Aberystwyth.
Wedi dod oddi ar y tren dyma ni’n gwneud ein ffordd yn ol i dy John ar y tram – wnaetho ni warchod y plant y noson honno er mwyn i John a Sophie gael mynd allan am dro!
No comments:
Post a Comment