16.6.05

Genefa – Dydd Sul (1)

Ar ddydd Sul roedd angen i ni fod ym Mryste i arwyddo fewn erbyn 11.30 y.b., felly er mwyn bod yn saff fe adawo ni Gaerdydd am 10.00 y.b. Roedd y daith yn y car yn ddifyr iawn, oherwydd i ni yrru trwy’r Avon Gorge ac yna pasio’r Clifton Suspension Bridge oedd yn edrych yn anhygoel. Tynodd Tad Gwen ein sylw at y ffaith fod llawer yn lladd eu hunain drwy neidio oddi ar y bont – hmmm diddorol.



Wedi cyraedd y maes awyr draw a ni at ddesg easyJet. Mae easyJet yn gwmni hollol wych! Roedd y daith yna ac yn ol dim ond yn costio ychydig mwy na thren i Lundain ac yn ol (llynedd roedd y tocynnau YN rhatach na thren i Lundain ac yn ol!). Wedi i ni ddangos passports ayyb… roedd angen i ni gyflwyno ein bagiau. Wedi i’r ddynes eu pwyso fe’m gorchmynwyd ni i fynd i ddesg arall i gael ein holi ym mhellach (roedd pawn arall yn medru mynd syth trwyddo ar y pwynt yma!).



O na, co ni’n mynd meddyliais. Dwi wedi cal sawl running gyda phobol Customs o’r blaen e.e. Unwaith ar y ffordd nol o Ffrainc fe gymerodd un o’r dynion hunan-bwysig Basbort fy Nhad a gofyn iddo “Where were you born sir?” (roedd e’n dweud ar y pasbort wrth gwrs) atebodd fy nhad “Aberystwyth”. Atebodd Dad yn anghywir, roedd e’n stressed debyg! Tro arall aetho ni i Ddulyn am y diwrnod o Gaergybi, ar y ffordd nol daeth dyn fynny ata i a Cynan a gofyn i ni sefyll o’r neulltu. Wedi i ni fynd rownd y gornel tynodd gerdyn allan a’i fflachio a dweud “Special Branch… i want straight answers boys”. Diolch byth dim ond cwestiynnau syml ofynodd e.

Reit nol at Frystau. Ers cal fy arestio cwpwl o weithiau gyda’r Gymdeithas + cal fy stopio ddwywaith gan Heddlu tra’n gyrru, dwi wedi datblygu rhyw fath o baranoia anhygoel. Pob tro dwi’n gweld Heddlu dwi’n mynd i banic. Felly wrth i ni ymlwybro draw i’r ddesg nad oedd neb arall yn gorfod mynd iddi dyma fi’n cofio ein bod ni yn Nalgylch Avon and Sumerset Constabulary, hynny yw y sir ges i fy arestio ynddi flwyddyn yn ol tra’n protestio ym Mhencadlys Oren. Roeddw ni’n poeni fod fy enw wedi fflachio ar y cyfrifiadur.

Dyma ni’n cyraedd y ddesg a’r dyn yn gorchymyn i ni basio’n bagiau trwy’r peiriant sganio. Gofynnodd “Have you got any electrical equipment?”, “No” atebais innau. A wedyn panic – dyma fi’n cofio fod gyda mi sawl peth electronig yn fy mag. Dechreiais boeni wedyn fod y boi yn meddwl fy mod i’n ceisio cuddio rhywbeth. Ond yna atebais gan esbonio beth oedd popeth. Diolch i’r drefn dyna ddiwedd ar yr arwyddo mewn.

Wedi’r halibalw yna roedd gyda ni hanner awr i gael cinio. Felly lan i ni i gal cinio gyda rhieni Gwen cyn iddyn nhw droi nol am Gaerdydd. Yn ol yr arfer mewn llefydd fel meysydd awyr roedd y bwyd yn weddol ddi-flas ac wedi brisio trwy’r to. Yr unig beth diddorol oedd y te oedd yn datblygu ewin. Es i a fe nol ac fe gytunodd y staff fod rhywbeth yn bod gyda fe!

Roedd y daith yn yr awyren yn un fyr (tua awr a 15 munud) ond ryff iawn. Roedd Air Turbelance difrifol, wedi dweud hynny oherwydd y gwyntodd cryfion esboniodd y Capten y bydde ni’n medru teithio yn gynt drwy fynd mewn i un o’r jet streems naturiol. Erbyn cyraedd Genefa roedd genai fol tost a chlustiau poenus.

Yna yn ein cyfarfod roedd fy Nheulu i gyd ag eithrio Erwan oedd mewn parti. Wedi gadael y maes awyr fe aethom ni i barc mawr i gael picnic cyn mynd i nol Erwan. Erbyn i ni gyraedd yn ol yn y ty a chael swpper roedd hi’n amser noswylio.

No comments: