Blogio Ffon
Dwi wedi cymryd bore ma bant o gwaith oherwydd mod i'n mynd allan i Dal-y-bont mewn munud. Dwi wedi llwyddo i wneud ambell i beth bach bore ma fel diweddaru gwefan Kenavo, mae'r gigs diweddaraf a gwybodaeth am y CD newydd yna nawr. Cofiwch am y cynnig arbennig i ddarllenwyr y blog (gwelwch y blogiad diwethaf).
Dwi wrthi nawr yn gwylio'r Cynulliad yn fyw – diflastod llwyr! Y pwyllgor Amaeth ac Amgylchedd sydd wrthi.
Efallai i chi sylwi fod y llun yn y blogiad isod o ansawdd is na'r arfer. Mae hynny oherwydd mae llun oddi ar y ffon ydyw – fy ngobaith wrth ddefnyddio'r ffon yn amlach i dynnu lluniau a'i rhoi ar y blog fydd er mwyn dal pethau diddorol tra mod i ar y mwf. Bydd yn rhaid i mi drio gweld sut mae'r Flicr yma yn gweithio rywbryd hefyd.
Nesi ddarllen ddoe y bydd modd mewn ychydig postio ar eich blog drwy ddanfon neges destun (neu neges media os am gynnwys llun hefyd) i'ch blog! Mae Blogger yn gwneud hyn eisioes yn yr UDA ond dwi methu gweld yn nunlle fod modd ei wneud ar Ynysoedd y Kedyrn eto. Pan ddeith blogio testun ffon i fodolaeth bydd yn chwyldro arall i flogwyr oherwydd bydd modd rhoi adroddiadau byw a chyson o bethau diddorol heb orfod aros tan eich bod yn mynd adref at eich cyfarfod.
1 comment:
Gali di flogio'n syth i www.moblog.co.uk o dy ffon lon. Dyna sut ro'n i'n postio'r lluniau yno ar fy hen ffon.
Post a Comment