Pam cadw blog?
"Cadw tŷ mewn cwmwl tystion”
Er fod street cred blogs a blogwyr yn codi dwi dal i glywed pobl yn siarad yn wawdlyd am bobl sy'n cadw blogs. “Sados” medde'n nhw! Felly heno ma yn sydyn dwi'n teimlo'r awydd i esbonio beth yw pwynt blog i mi. Dwi wedi gwneud hyn unwaith, nol yn mis Ionawr yn fy mhostiad cyntaf.
Dwi'n mwynhau ysgrifennu, er fod fy Nghymraeg yn wallus ac yn rhydd ar y blog o'i gymharu a fy erthyglau bARN efallai, mae'r blog yn gyfle i ysgrifennu ychydig baragraffau bob dydd. Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi sôn mwy am hynt a helynt fy hun nag y tybiaswn y byddwn yn gwneud ar y dechrau – ond holl bwynt gwneud hyn ydy rhoi sylw i'r hyn dwi'n credu neu at yr hyn sy'n agos at fy nghalon.
Dyna pam er enghraifft mod i'n sôn dipyn am waith Undeb Cristnogol y coleg, fy ngwaith gyda'r Gymdeithas a'r BYD – nid er mwyn tynnu sylw ataf i fy hun ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo yr achosion a chael cyfle i esbonio yr hyn dwi'n credu.
Yn olaf ac yn bwysicaf dwi'n meddwl fod blogio yn bwysig oherwydd mae'n rhoi'r gallu i gyhoeddi i bawb am ddim! Dyma yn wir yw'r chwyldro mawr mae'r we wedi dod i ni – bellach nid oes gan y BBC a llond dwrn o gwmnïau papur newydd fonopoli ar gyhoeddi newyddion a rhoi sylw i bethau. Bellach fe all bawb droi at y we a dechrau cyhoeddi yn ddyddiol eu newyddion nhw a rhoi eu slant nhw i ddigwyddiadau ac achosion y dydd.
No comments:
Post a Comment