26.6.05

Naws Gorffenaf

Bore ma daeth newyddiadurwraig o'r BBC i'r tŷ er mwyn gwneud cyfweliad gyda ni ynglyn a cerddoriaeth Gymraeg ar y we. Roedd hi'n glen iawn chware teg a dwi'n meddwl i ni ddangos a dweud pethau diddorol! Roedd hi ishe ffilmio'r broses o recordio yna llosgi i MP3 a chyhoeddi ar y we.

Mynd i weithio ar ffansin NAWS rŵan, dyma fydd y cyntaf i fi wneud ar y Mac newydd felly dwi am ail frandio y ffansin fel dathliad mae dyma fydd NAWS 10!

Dyma boster NAWS 10



2 comments:

Nic said...

Egsgliwsif ac unigryw, falle, ond tanddearol? Shurely shome mishtake? ;-)

Wedi dweud hynny, gobeithio bod 'na. Heb weld Tecs ers blynyddoedd.

Mae dwy "n" yn "Gorffennaf", gyda llaw. ;-)

Rhys Llwyd said...

Dwi'n gwbod, di cal rown gan mam yn barod am gorfenNaf!

Dylw ni wbod, mis fy mhenblwydd!