16.7.05

Taith Manna (rhan 1)

Few and far between ydy negeseuon fy mlog dyddiau yma mae gennai ofn. Dwi wedi bod i ffwrdd am wythnos yn teithio gyda Manna band o Gristnogion, fi oedd yn gwneud y sain. Gesi amser grêt, roedden nhw yn ware mewn ysgolion yn ystod y dydd ac yn ware gigs gyda'r nos. Dyma'n fu'r hanes:

Dydd Gwener 8.2.05

Dal bws i Gaerfyrddin am 9.00am, y Traws Cambria neu i ddefnyddio ei enw cyfoes X40. Bws tref ydoedd yn hytrach na coach, ond a bod yn deg roedd y siwrne yn oce. Dwi'n casau bysys fel rheol ond roeddw ni'n rhyfeddol o Cwl ar y daith yma, mwy na thebyg oherwydd fy mod yn gwybod nad oeddwn mynd i fod arni yr holl ffordd i Gaerdydd. Wedi cyrraedd Caerfyrddin es i syth i'r orsaf drenau i ddal un i Lanelli, roedd yna Heddwas yna gyda ci yn snwffian ein bagiau – roedd hyn ddiwrnod wedi 7/7 wrth gwrs.

Roedd angen i mi gyrraedd Llanelli erbyn amser cinio er mwyn cal lifft o fan yna ymlaen gan Lewis Roderick i Gaerdydd. Wedi i mi gyrraedd Llanelli daeth Lewis i fy mhigo i fyny ac aethom ni adref i'w dy i gael cinio. Ar y ffordd aeth Lewis a mi heibio'r 'sights' dim llawer i'w weld yn Llanelli ond fe ddangosodd Gapel Trinity i mi, capel fy Nhad-cu pan oedd yn Weinidog yn y dref yn y 70au ac fe ddangosodd hefyd fragdy Felinfoel!

Wedi i Lewis orffen pacio i ffwrdd a ni! Cyn taro'r draffordd roedd Lewis angen mynd a rhywbeth i Nobs yn y Bont – tro cyntaf i mi fynd i'w dy, neis iawn mewn dyffryn prydferth iawn, byddech chi byth yn meddwl fod y tŷ gwta ddwy funud o'r M4.

Wedi cyrraedd y ddinas ddrwg draw a ni yn syth i dy EJ ac EJ. Parti, neb cweit yn siŵr i ddathlu be ond y consensws oedd mae parti dathlu'r haf oedd hi. Erbyn 10.30 roeddwn ni wedi cael ymborth a fyddai'n lliwio fy mywyd am y dyddiau nesaf – y sosej nad oedd wedi ei goginio'n iawn!

Amser gwely.

3.30am – poen yn fy mol yn dechrau.

Dydd Sadwrn 9.2.05

Deffro'n gynnar a draw i ymarfer gyda Manna. Roedd rhaid i Rhodri (y gitarydd) fod yn Rhydaman erbyn 2.30 felly dim ond y bore oedd gyda'n nhw i ymarfer ac i mi ddeall y system sain fyddai fel llaw dde i mi am yr wythnos! Os y bu un peth oeddwn wedi eisiau ei gwneud erioed nid gwneud naid bynji oedd hwnnw ond yn hytrach cael brechdan o SUBWAY – roeddwn wrth fy modd yn cerdded tuag at SUBWAY Heol y Crwys ddydd Sadwrn. Ges i un troedfedd o hyd – nesi lwyddo i fwyta tri chwarter troedfedd cyn i'r cyfan fynd yn drech aranai. Fyddai ddim yn prysuro i brynu SUBWAY arall, roeddwn yn siomedig...

[TORIAD YN Y STORI]

Rhaid mi fynd i nol Cynan o'r ysgol nawr er mwyn mynd fyny i Ddolgellau reit handi; mae Sleifar a'r Teulu yn cael prawf sain am 4 – rhaid peidio bod yn hwyr! Gew chi glywed gweddill hanes yr wythnos eto.

No comments: