Taith Manna (rhan 2)
Rhaid i mi brysuro i orffen adrodd hanes taith Manna cyn i mi anghofio am y cwbwl oll.
Dydd Sadwrn 9.7.05 (...parhad)
...ar ôl i ni fwyta ein brechdanau anffodus o Subway roedd rhaid troi nol at yr ymarfer. Erbyn hyn roedd fy mol yn dechrau teimlo'n simsan. Y noson honno roedd Manna yn perfformio gig yn Eglwys Efengylaidd Caerdydd. Pan ysgrifennais erthygl am y band nol yn y Gaeaf un peth wedesi ar y diwedd oedd gosod her iddyn nhw fynd tu hwnt chwarae mewn capeli a chynadleddau Cristnogol – yn hyn o beth felly os oedd y band yn ateb fy her doedden nhw ddim wedi dechrau yn y ffordd gorau posib. Cafodd y band gynnig chwarae y noson honno yn Nghastell Roc – bu cryn ddadlau yn y band os oedden nhw am dderbyn y cynnig a'i peidio, roedd Lewis y 'radical' (byddai eraill yn ei alw'n 'ffol' efallai!) am i Fanna fynd i Gastell Roc yn hytrach na chwarae yn yr Eglwys Efengylaidd.
Dyma oedd dadl Lewis, “Ware o flaen 2000 un-belivers yn Castell Roc neu ware o flaen 30 friends and familie yng Nghaerdydd?”. Er bod brwdfrydedd Lewis i bobl Aberystwyth glywed yr Efengyl (rhag ofn nad ydych chi wedi sylwi erbyn hyn holl bwynt Manna ydy defnyddio Cerddoriaeth i sôn am Iesu!) yn rywbeth i'w edmygu wn i ddim os byddai eu Cerddoriaeth acwstig hwynt wedi gweddu gyda'r ŵyl ger y lli.
Ysywaeth; roedd y gig yn yr Eglwys yn dechrau am 8.00. Doedd dim gymaint a hynny o bobl yn bresennol ond roedd yna ddigon yna i lenwi'r lle. Yn ystod y drydedd gan roedd rhaid i mi adael am y lle chwech, dyma oedd y tro cyntaf ond nid y tro olaf yn ystod y noson. Roedd y Selsig amheus o'r noson gynt mewn cyd-weithrediad ar brechdan SUBWAY wedi dechrau ymosod arnaf!
Wedi'r gig nol a ni i dy EJ ac EJ – es i syth i'r gwely.
Hanes Dydd Sul yn y blog nesa...
No comments:
Post a Comment