Taith Manna (rhan 3)
Dydd Sul 10.7.05
Yn y bore roedd Manna yn chwarae yn Glennwood; eglwys fawr garesmatig Saesneg. Es i ddim oherwydd fy mol. Roedd yna 200 yna mae'n debyg ac roedd 150 o'r aelodau i ffwrdd ar benwythnos gyda'i gilydd! Eglwys enfawr felly. Wedi iddyn nhw ddod nol yn syth a ni draw i'r gorllewin. Roeddw ni'n teithio gyda Lewis eto. Ar ol cyraedd Pen-y-Groes draw a ni i gapel Calfaria i nol y bws mini oeddem ni'n cael ei fenthyg am weddill y daith.
Nos Sul roedd gan Lewis gyfarfod aelodau yn y Capel, noddfa Pontardulais, felly es i ddim i'r capel gyda fe, roeddw ni'n falch mewn ffordd oherwydd roeddwn eisiau mynd i gapel Cymraeg. Perodd hyn dipyn o sioc i Lewis dwi'n meddwl, hynny yw bo fi ishe mynd i gapel Cymraeg yn hytrach nag un Saesneg all out Efengylaidd – testun blogiad arall fan hyn.
Fel mae'n digwydd es i i gapel Cymraeg a thystiolaeth gwbwl Galfinaidd yn diwedd – es i i gapel Cecil Jenkins yn Llwynhendy, Llanelli. Roedd en deimlad reit emosiynol oherwydd roedd Cecil yn weinidog yn Llwynhendy ers y dyddiau pan oedd Tadcu yn weinidog lawr rhewl yn Trinity Llanelli. Ges i groeso anhygoel gyda pawb yn llawn storiau am Mam yn blentyn yn yr ardal yn y 70au. Roedd y 70au yn gyfnod o dystiolaeth Galfinaidd gref yn Llanelli, Tadcu yn weinidog gyda'r MC, Efan George, Cecil Jenkins a Denis Jenkins gyda'r Bedyddwyr yn yr ardal ac wedyn Noel Gibbard gyda'r Annibynnwyr. Roedd digon o ddewis os oedde chi eisiau clywed efengyl gras yn Llanelli yn y 70au!
Ar ol capel ges i wahoddiad i fynd am baned at Dafydd Jenkins, mab Cecil, tan fod Lewis yn gorffen a dod i'm hol. Ar ol i Lewis ddod draw bant a ni i Abertawe i ddisgwyl Owen M ac EJ oddi ar y tren, EJ ydy rheolwraig Manna ac Owen M oedd yn helpu fi da'r sain, ces a hanner. Fel mae'n digwydd roedd y tren yn hwyr... iawn. Felly etho ni draw i dy Dafydd Taylor i aros – boi cwl iawn, yn hyfforddi i fod yn weinidog wedi 5 mlynedd yn gweithio yn ffatri Ford!
Un peth am trawodd tra o ni ar y daith oedd cymaint o fois ifainc fel Dafydd, Lewis a Nobs sydd ar dan dros Dduw ac yn bwriadu mynd yn bregethwyr OND eu bod nhw i gyd yn aelodau mewn eglwysi Saesneg er bod nhw gyd yn medru'r Gymraeg. Diwedd dydd mae gras yn bwysicach nag unrhyw iaith - ond a'i esgeuluso cyfrifoldeb i'w cyd-Gymry ydy hi i Gristnogion Cymraeg ymgartrefi mewn sin Gristnogol ffynianus Saesneg?
No comments:
Post a Comment