27.7.05

Taith Manna (rhan 4)

Mae'r blog yma fwy na pythefnos ar ei hol hi bellach mae genai ofn! Fe dria i orffen adrodd hanes taith Manna cyn mynd bant i steddfod!

Dydd Llun 11.7.05

Wyth y bore a chyrraedd ysgol y Strade Llanelli. Roedd Manna yn cymryd y gwasanaeth; dyma oedd ysgol Lewis – y tro cyntaf iddo ddychwelyd i'r ysgol ers dod yn Gristion felly roedd yn eiddgar iawn i weld sut fyddai pobl yn ymateb. Trefn y gwasanaeth oedd 2 gan, yna Lewis yn siarad am ei brofiad o ddod yn Gristion, yna 2 gan arall. Dwi'n meddwl i bawb fwynhau.

Ar ôl pacio'r offer mewn a ni i ganol y dref am frecwast/cinio. I'r Metropolitan, rip-off o Weatherspoons. Tafarn oedd yn edrych ac a bwydlen debyg i Weatherspoons OND nid Weatherspoons ydoedd ond jyst tafarn leol wedi addurno ei hun i edrych fel Weatherspoons. Fe fentrais i fwyta am y tro cyntaf ers y SUBWAY ddydd Sadwrn – roedd y frechdan yn fendigedig!

Ar ôl cinio draw a ni i stiwdios Tinopolis – roedd Manna i berfformio ar Wedi 3. Dwi ddim yn un sydd yn meddwl llawer o gynyrchiadau Tinopolis, ac ni newidiodd y profiad yma fy marn. Yr hyn am tristaodd mwyaf am y profiad oedd gweld yr holl Gymry Cymraeg oedd yn gweithio yna yn siarad Saesneg gyda'i gilydd. Fel y pwyntiodd EJ allan roedd hi'n dristach fyth wrth feddwl fod rhain i gyd yn gwneud eu bywoliaeth o ganlyniad i'r iaith ac ymdrechion Cymdeithas yr Iaith ayyb... i sefydlu sianel deledu Gymraeg.



Ar ôl gorffen yn Tinopolis draw i dy Lewis i'w wylio ar y teledu. Roedd y rhaglen yn ôl y disgwyl yn ofnadwy ond roedd perfformiad Manna yn iawn – er roedd y chwys ar dalcen Aled braidd yn off puting! Gig yn y Dairies, Caerfyrddin, oedd yn y nos.

Roeddem ni wedi cael vibes rhyfedd am y gig yma eisoes. Fe aeth ein cyfaill EP mewn yna wythnos yng nghynt i ofyn pam nad oedd y posteri fyny – a wedodd y perchennog fod rhywun di dod mewn a chanslo y gig! Doedd dim byd o'r fath wedi digwydd. Daeth yn hysbys i ni wedi fod dybyl booking di digwydd, wedi dybyl bookio gyda'r Carmarthen Darts Society AGM! Ysywaeth fe darwyd bargen fod y gig yn cael cychwyn am 9.30, syth bin wedi i'r cyfarfod ddod i ben. Wedi gosod yr offer draw a ni i Emaus, ty Owen M am fwyd. Pan gyrhaeddom ni nol yn y Dairies fe'm hysbyswyd fod rhaid i ni symud ein holl offer fyny lloft oherwydd na fyddai'r Carmarthen Darts Society AGM wedi dod i ben erbyn 9.30. Panic mawr i gael pawb a phopeth lan lloft, a'r perchennog yn gaib erbyn hyn yn taflu stwff dros y lle i gyd.



Mewn ffordd roedd hi'n dda fod y cyfan di symud lan lloft oherwydd llond dwrn o bobl ddaeth i'r gig – jyst yn iawn i'r stafell fach. Cat Daf 'solo' oedd yn cefnogi – hollol wych!

No comments: