29.7.05

Taith Manna (rhan 5) a 'STEDDFOD!

Dydd Mawrth 12.7.05

Bore cynar arall a draw i Ysgol gyfun Gwyr yn Abertawe i gymryd gwasanaeth. Dirprwy’r ysgol oedd Dafydd Jenkins y boi es i gal paned da ar ol cwrdd yn Llwynhendy nos Sul. Roedd hi’n grasboeth! Ar ol gwasanaeth roedd y band yn cymryd tri dosbarth Add. Gref. Roedd athrawon Gwyr yn anhygoel o groesawgar ac mi o ni’n hoffi vibe yr ysgol – ymlaciedig iawn, fel yr hen Benweddig cyn symud i’r adeilad newydd. Cyn cychwyn o na getho ni ginio am ddim yn y ffreutur!



(Manna yn cymryd y gwasanaeth yn Ysgol y Gwyr, Abertawe)


Ar ol gadael draw a ni i dy Ben yn Pen-y-Groes am seibiant bach. Aeth Owen M i gysgu a nesi ddarllen un o gylchgronnau ‘Mountain Climing’ Ben a dysgu sut oedde chi fod, wel, claddu eich, chi’n gwbod be pe tai chi angen mynd ar lwybr mynyddig! Difyr iawn.

Draw a ni erbyn amser te i Eglwys Efengylaidd Rhydaman ble roedd Manna yn ware y noson honno. Ar ol gosod yr offer a phrofi y Sain draw a ni i’r Mans, ty y Parchedig Johnathan Thomas (a.k.a. Tom Tom) i gal Swper. Roedd capel Tom Tom ar Heol y Gwynt rhyw hanner canllath o Benthani, ble roedd Tadcu wedi ei gladdu; piciesi draw i weld y bydd – doedd dim careg wedi ei osod eto, ond roedd placard dros dro yna gyda’r llythrenau H.G. Be? Wedyn sylweddolais mae dyna oedd enw yr ymgymerwr yngladdau!




(Manna yn Eglwys Efenylaidd Rhydaman)

Ath y gig yn dda, digon o bobl yna a croeso cynes eto. Wedi i ni orffen popeth nol mewn i’r bws a’i tharo hi am Aberystwyth. Cyraedd Aber tua gannol nos a dadbacio popeth, doedd Ben ddim am adael y stwff i gyd yn y bys rhagofn i’r penshaniars sy’n byw wrth ymyl gymryd ffansi ar Fender Rhodri! As if Ben, croeso i Gymru! (Mae’n Americanwr sy di dysgu Cymraeg chi’n gweld – legend.)

Dydd Mercher 13.7.05

Dim angen codi yn gynnar heddi – hwre! Gwasanaeth Penweddig ar ol cinio yn hytrach na peth cynta yn bore felly cyfle i gal bach o lai in. Unwaith eto y gwasanaethau yn mynd dda, yn wahanol i’r ysgolion eraill roedd gofyn iddyn nhw chwarae set gyfan o hanner awr (ddwy waith) yn hytrach na chymryd gwasanaeth 2 gan a sgwrs fel yn yr ysgolion eraill. BJ oedd di trefnnu, y dirprwy, merch i weinidog oedd wastad a diddordeb ysol yn fy ffydd i mewn gwersi trafod er ein bod ni’n anghytuno yn gryf o bryd i’w gilydd – ro ni’n joio trafod da hi mas draw.

Home town gig i fi yn y nos; nol yn y Cwps! Profiad rhyfedd oherwydd yn cefnogi roedd Sam Poppies ar yr acwstig. Dyma oedd y gig cyntaf i Iago’r Sais wneud gyda nhw ers y gig yng Nghaerdydd; mae’r drymiau yn adio llawer i’r sain yn yn eu gwneud i swnio lot mwy fel band go iawn a llai fel worship band mewn eglwys garesmataidd.




(Manna yn Y Cwps)

Roeddw ni wedi cael amser gwych gyda Manna ac ro ni’n teimlo’n reit emosiynnol yn gadael pawb ar ol y gig. Roedd pawb arall yn mynd mlaen i chwarae yng Nghaernarfon y noson wedyn ac ym Mangor y noson wedi hyny. Roedd rhaid i mi neidio oddi ar y bws yn Aberystwyth oherwydd roedd pentwr o waith yn fy nisgwyl yn Y BYD ac roedd parti pen-blwydd fy chwaer yn 18. Ond caf i gwrdd fyny gyda’r criw eto yn Y GORLAN yn ‘steddfod.

Mwy o luniau o daith Manna ar fy nghyfri Flikr

Bywyd ers Manna…

Life goes on chadal y Sais. Dim byd rhy ddifr di digwydd ers taith Manna oni bai bod hi di bod fel ffair yn Y BYD yn paratoi pethau ar gyfer y ‘steddfod. Dwi’n gadael peth cyntaf bore fory felly dyma fydd y blogiad olaf am fwy na wythnos mwy na thebyg. Bydd da fi sawl stori i’w hadrodd pan ddai nol o ’steddfod siwr a fod!

Hwyl!

No comments: