9.8.05

Eisteddfod (Y Gorlan)

Dyma fi adre'n saff, jyst abowt, o'r steddfod. Dwi am roi go ar adrodd hanes fy wythnos yna, yn ôl pwnc/thema yn hytrach nag adrodd yr wythnos yn gronolegol dwi'n meddwl!

Y Gorlan

Dyma aeth a rhan fwyaf o'm hamser, a dyna sydd wedi bod yn mynd a rhan fwyaf o'm hamser yn steddfod ers Dinbych 2001 pan ddechreues weithio yn y Gorlan. I'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r Gorlan a'i phwrpas porwch y wefan. Roeddwn ni'n rheoli shifft wyth y nos hyd ganol nos ond roeddwn o gwmpas i roi help llaw i bobl shifft hanner nos tan bedwar y bore. Fe aeth yr ochr ymarferol yn iawn oni bai am i'r trydan chwythu un noson ac ychydig o ben tost gyda Castell Howell yn dod a bwyd (fel arfer mae nhw'n dod bob dydd ond dim ond dwywaith ddaethon nhw steddfod yma felly roedd rhai i rai fynd draw i Tesco a'r Cash & Carry lleol i stocio fyny).

Ar yr ochr sgyrsiol (hynny yw esbonio ein ffydd i bobl) do ni ddim yn bersonol yn gweld fod y Gorlan eleni wedi bod yn or-lwyddiannus am sawl rheswm. Yn gyntaf roedd awyrgylch maes b eleni tipyn mwy gwyllt a phrysur – ddim y teip o awyrgylch ti mynd i gael cyfle i rannu stori Iesu efo pobl. Hefyd i mi yn bersonol roedd polisi maes b egsgliwsif ddim wedi helpu. Rwy'n berson sy'n credu'n gryf ac yn fwy cyfforddus yn trafod fy ffydd gyda pobl dwi'n nabod a phobol dwi'n debyg iddyn nhw. Oherwydd fod 'teips' Cymdeithas yr Iaith, fy ffrindiau, fy nghomrads ayyb... wedi cadw ffwrdd doedd y bobl y buaswn wedi mwynhau trafod fy ffydd gyda nhw (ac y bydden nhw yn sicr wedi mwynhau fy herio i!) ddim yna – felly i mi roedd y lle yn dlotach heb deips egwyddorol Cymdeithas yr Iaith ar hyd y lle.

Daeth yna ddau dim o America i gynorthwyo. Un tîm dan arweiniad Phil Wyman o Salem, tref ger Boston yn Massachusetts. Mae'r lle'n enwog mae'n debyg am dreualau Gwrachod ddigwyddodd yn 1692 – darllenwch am yr hanes hyn yma. Daeth yr ail griw o Foston gyda Kevin Adams, Cymro o Lanelli aeth allan i siarad yn yr Amerig ddwy flynedd yn ôl am ddiwygiad 04-05 a daeth yn ôl wedi dyweddio! Bellach mae'n byw allan yna gyda'i wraig (sy'n Gymraes sy'n siarad Cymraeg er nad ydy hi erioed wedi byw yng Nghymru!!) ac wedi cael swydd fel gweinidog.

Pob tro mae Americanwyr yn dod allan i weithio yn Gorlan mae yna baradocs a deuoliaeth a phenbleth o bosib yn rhedeg drwy fy ngwaed. I ddechrau yn amlwg dwi ddim yn cytuno gyda nhw yn wleidyddol o gwbl (fel Efengylwyr o'r Amerig mae nhw'n agored ar y dde yn wleidyddol) ond yn ddiwinyddol dwi ddim yn gweld 100% run peth a nhw chwaith, fel y dwedodd Phil ei hun “I have some strong Ariminian tendancy!” - i chi sydd ddim yn gwybod dwi yn Galfinaidd rhonc. Ond er y gwahaniaethau gwleidyddol a diwinyddol mae nhw'n bobl wirioneddol hyfryd a gweithgar sydd a'i calonnau i weld Cymru yn troi nol at Grist (gwerth nodi fod yr holl genhadon maen nhw'n anfon draw yn dysgu Cymraeg yn rhugl o fewn blwyddyn – ac yn troi i weld mae Calfiniaeth ydy'r ffurf fwyaf beiblaidd o Gristnogaeth!!).

Yn ariannol roedd popeth i'w weld yn oce gyda'r Gorlan. Fel mae pawb yn gwybod ar ôl darllen dim-Lol roedd rhaid i ni dalu am ein lle eleni, dim £5000 fel yr adroddwyd yn y cylchgrawn ond yn agos iawn at hynny. Dwi wedi deall fod hynny yn ad-daliad am arian dy ni fod wedi bod yn rhoi bob blwyddyn ers amser felly byddwn ni ddim yn rhoi taliad mor fawr a hynny bob blwyddyn fel dwi'n deall. Roedd yr eisteddfod reit flin gyda'r stori yn dim-Lol, fi oedd y leak, ond gai bwysleisio mae digwydd sôn wrth Catrin Dafydd y golygydd fel ffrind yn unig tra'n sgwrsion gyffredinol am y steddfod oeddwn. Doedd hi ddim yn fwriad gennyf wneud stori fawr allan ohoni – ac yn sicr nid fi ysgrifennodd yr erthygl fel mae rhai wedi awgrymu!

Felly dyna adrodd hanes y Gorlan, agwedd arall ar fy eisteddfod i yn y postiad nesaf.

Lluniau o fy Eisteddfod (dim llawer sori roedd y camera yn tempremental iawn!)

2 comments:

cridlyn said...

Ond pam ddiawl ddylech chi roi arian i'r Steddfod? O'r hyn wela' i (cywira fi os ydw i'n anghywir), chi'n talu eich costau eich hun, ac yn cynnig gwasanaeth am ddim i'r Steddfod, fyddai fel arall yn costio arian sylweddol iddyn nhw. Felly sut allan nhw fynnu arian oddi wrthoch chi?

Rhys Llwyd said...

Wel mae'n gymhleth. I arbed costau mi o nhw ddim am roi pabell/adeilad ein hunain i ni - o nw ishe ni fel 'bar' yn maes-b os hoffeti.

Gan bo ni ddim ishe hynny y cytundeb oedd y bydde ni yn fodol cyfrannu at y gost o gael adeilad ein hunain. Nawr dwi ddim yn cytuno fod hynny'n iawn omd felna mai - mar steddfod angen y Gorlan ac mae'r Gorlan yn dibynnu ar y steddfod am le.

Chydig bach fel yr iar ar wy - pa un ddaeth gyntaf?

Ond ti'n iawn bydde fe'n rhatach ir steddfod roi lle am ddim i ni, talu ein bils ayyb... na fydde fe iddyn nhw redeg Y Gorlan eu hunain yn fasanachol oherwydd bydde rhaid iddyn nhw dalu y gweithwyr.