11.8.05

Llyfrau

Wedi penderfynu peidio sôn mwy am 'Steddfod, dwi ddim am gael cyfres o bostiadau yn dragio mlaen fel y gwnaeth rhai taith Manna. Ond os dy chi eisiau fy nghlywed yn mwydro am gigs a Cd's y 'steddfod mynnwch gopi o rifyn Medi o bARN!

Felly dwi mynd i sôn ychydig am lyfrau dwi wedi prynu yn ddiweddar.

Prynes i 2 lyfr newydd yn yr Eisteddfod:

  • Castrating Culture gan Dewi Arwel Hughes (£9.99 – Tearfund/Paternoster)
  • Torf Ardderchog gan John Aaron – Cyfrol 1 (£1 – Gwasg Bryntyrion)

Neithiwr yng Nghynhadledd (Saesneg) Mudiad Efengylaidd Cymru fe brynes i:
  • 'Excuse me, Mr Davies – Hallelujah!' gan Geraint D. Fielder (£2 – Gwasg Bryntyrion)
  • Welsh Calvinistic Methodism gan Williams Williams (£2 – Gwasg Bryntyrion)
  • Christian Preachers gan Nigel Clifford (£1.50 – Gwasg Bryntyrion)
  • 2000 Years of Christ's Power (400 tudalen) Part One (!) gan N.R. Needham (£13.50 – Grace Publications)

Sylwch fod y gweisg Saesneg yn codi mwy am y llyfrau, nhw'n ceisio gwneud elw o bosib tra fod y wasg Gymraeg dan sylw yn codi cyn lleied a phosib oherwydd fod nhw jyst am i bobl glywed yr hanesion.

Dwi am sôn ychydig am y llyfr dwi wedi bod yn darllen mwyaf arni hyd yma.

Castrating Culture

Rhyw fath o 'Welsh Extremist' teip o lyfr ydy Castrating Culture, yn yr ystyr fod Dewi A. Hughes fel Ned Thomas gyda'i lyfr ef yn benodol wedi dewis ysgrifennu yn Saesneg er mwyn esbonio i bobl o'r tu allan sut beth ydy hi i fod yn aelod o genedl/diwylliant sydd dan warchae a dan fygythiad. Roedd Ned Thomas yn anelu ei lyfr ef at gynulleidfa reit eang tra bod Dewi A. Hughes yn ei gwneud hi'n amlwg o'r dechrau mae esbonio'r syniad o Genedlaetholdeb/Cenedligrwydd/Diwylliant i gyd Gristnogion sydd efallai ddim yn deall sut all Gymro fod mor frwd dros ei genedl ond ar y llaw arall fod yn Gristion.

Mae Dewi A. Hughes yn mynd ati yn gelfydd ac yn fanwl iawn i esbonio sut a ble yn y Beibl mae Duw yn trin, trafod a gosod cenhedloedd a ieithoedd – felly yn ei ddadansoddiad dwi'n cyd weld ag ef. Yn wir roedd angen y llyfr yma i esbonio hyn yn Saesneg (gwnaeth Bobi Jones jobyn reit dda yn esbonio hyn eisoes yn Gymraeg yn ei lyfr 'Crist a Chenedlaetholdeb'). Ond rhaid i mi gyfaddef nad ydw i o'r rheidrwydd yn cytuno gydag atebion Dewi wedi iddo wneud ei ddadansoddiadau.

Er enghraifft ar ôl pledio'r achos fod aml-ieithoedd ac ieithoedd cynhenid yn beth iach ac yn beth sy'n bwysig i'r Cristion ymladd i'w cadw; mae'n dweud ei bod hi'n beth trist fod Eglwys Efengylaidd Ebenezer Bangor, a oedd yn ddwy-ieithog (oedfa Saesneg a Chymraeg arwahan yn y bore ac yna dim ond un Saesneg yn y nos + cyfarfodydd eraill yr eglwys yn Saesneg), wedi hollti i sefydlu eglwys annibynnol Saesneg ac eglwys annibynnol Gymraeg.

Dwi'n anghytuno a hyn yn gryf – mae fel pentai'n tanseilio ei ddadl ei hun. Mae wedi dadlau fod y Saesneg yn iaith fwyafrifol sydd o ddiwylliant orthrymol yna mae'n dweud y dylai'r Cymry fod yn hapus i gael un cyfarfod Cymraeg yn y bore a dim byd arall – yn hytrach na codi eu pennau a sefydlu eglwys eu hunain ple gallant addoli trwy'r amser yn Gymraeg. Mae'n fethiant ganddo hefyd i sylwi y byddai Cymry sydd ddim yn Gristnogion yn fwy tebygol o droi mewn i eglwys gyfangwbl Gymraeg yn hytrach nag un ddwy-ieithog.

Ond heblaw am y pwynt yna mae'r llyfr i'w weld yn un da iawn, sy'n dangos pwysigrwydd iaith a cenedl yng nghynlluniau Duw mawr. Nid yn aml y clywch i fi'n dweud hyn chwaith, ond yn achos y llyfr yma mae'n dda ei fod yn Saesneg oherwydd roedd angen gwaith o'r fath i esbonio i Gristnogion Saesneg a Seisnig y ddadl o blaid cadw cenhedloedd a ieithoedd.

No comments: