30.8.05

Winchester, Aberaeron ac Addysg Gymraeg

Wedi wythnos ymlaciol yn Winchester a noson hollol ryfedd yn Aberaeron (aros mewn B&B ar bobol yn rhyfedd iawn... tebyg i gymeriadau Dan Gadarn Goncrid, nofel MM) dwi nol yn Aberystwyth i wynebu blwyddyn arall o rocio, protestio a gweddio!

Yn fy nisgwyl ar ôl i mi ddod nol o fy ngwyliau oedd llythyr gan yr Adran Wleidyddiaeth yn cyhoeddi eu bod nhw yn diddymu dau fodiwl Cymraeg oherwydd diffyg galw honedig. Ar bapur efallai bod hi'n edrych fel bod diffyg galw OND mewn gwirionedd pe tae'r adran yn bod yn fwy pro-actif a trefnus byddai modd rhedeg y cyrsiau Cymraeg yn ddi-drafferth. Heno nesi anfon llythyr yn ôl at yr adran yn ogystal a sawl person perthnasol ym myd addysg Gymraeg!

Dyma oedd y llythyr....

Annwyl Ddr. Jenny Edkins

Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i'r llythyr a dderbyniais gennych wedi ei ddyddio 23 Awst 2005. Rwyf wrth reswm yn siomedig eich bod wedi penderfynu gollwng y modylau Cymraeg GW30120 a GW32420. Wedi dweud hynny rwy'n derbyn bod y niferoedd sydd wedi cofrestru ar eu cyfer yn rhy isel i gynnal y cyrsiau hynny.

Serch hynny hoffwn dynnu eich sylw at fater a godais mewn cyfarfod gyda Patrick Finney llynedd. Nodwyd yn un o gyfarfodydd yr SSCC fod y sefyllfa o gynnig sawl modiwl GW yn arwain at rannu'r myfyrwyr yn denau rhyngddynt fel nad yw sawl modiwl yn cyrraedd y trothwy o 5. Ar y pryd gwelodd Patrick Finney hi'n ddoniol iawn fy mod i'n awgrymu na ddylai'r adran gynnig cymaint o fodiwlau GW ond yr hyn oeddwn yn ei awgrymu oedd y dylid cael mwy o drafod gyda myfyrwyr o flaen llaw i weld pa gyrsiau yr oedd y mwyafrif am eu dilyn. Os oes 15 o fyfyrwyr yn dewis rhwng bedwar neu bump cwrs GW wrth reswm bydd rhai yn syrthio'n brin o'r trothwy pump myfyriwr. Mae'n drist gweld bod yr un peth wedi digwydd eto eleni er ein bod ni fel myfyrwyr wedi mynegi mewn cyfarfod ffurfiol llynedd bod angen newid y broses o ddewis modylau GW – mae angen trafodaeth agored gyda'r myfyrwyr i weld beth yw'r galw.

I mi byddai sustem dewis modylau o rifo yn ôl ffafriaeth yn rhagori ar y sustem bresennol o ddewis cyrsiau GW. Er enghraifft os nad ydy cwrs GW wedi cyrraedd y nifer o 5 bydd y myfyrwyr yn cael eu symud yn awtomatig i gwrs GW arall, sef yr un y byddant wedi ei nodi fel eu hail ddewis.

Ysywaeth gadewch i mi droi eto at y ddau fodiwl dan sylw, GW30120 a GW32420. Mae yna gyfanswm o bump wedi cofrestru, (rwy'n hyderus bydd mwy na phump yn ymddangos erbyn dechrau'r tymor) felly mae'n amlwg bod modd rhedeg o leiaf un o'r modiwlau hynny. Gobeithio bydd yr adran yn gweithredu'n bro-actif i warantu a threfnu hynny.

Hefyd hoffwn nodi y gwnaf innau bopeth o fewn fy ngallu i annog myfyrwyr eraill i ddilyn cyrsiau GW, fel yr anogwyd i mi wneud gennych yn y llythyr, ond hoffwn wybod beth y mae'r adran a'r brifysgol yn ei wneud yn gyffredinol i annog mwy i ddilyn y cyrsiau Cymraeg. Er enghraifft, ydych chi wedi e-bostio a ffonio'r myfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg i esbonio'r sefyllfa a'u hannog i ddilyn cyrsiau GW? Byddai hynny yn gam arloesol ond hollol ymarferol i'r adran a'r brifysgol ei gymryd er mwyn hybu a hyrwyddo cyrsiau Cymraeg. Fe wnaf i bopeth o fewn fy ngallu, a sawl myfyriwr arall maen siŵr, ond ar ddiwedd y dydd rôl staff cyflogedig y brifysgol yw hyrwyddo'r addysg Gymraeg a gynigir.

Os ydym ni am weld addysg Gymraeg yn ffynnu yna mae'n rhaid i'r brifysgol wneud mwy na chynnig cyrsiau Cymraeg. Holodd Derec Llwyd Morgan ar y teledu ddwy flynedd yn ôl os oeddem ni fel myfyrwyr yn disgwyl i'r brifysgol fynd allan “...i'r caeau a'r meysydd” i chwilio am y myfyrwyr Cymraeg. Dydyn ni ddim yn disgwyl hynny yn llythrennol ond wedi cynnig cwrs rhaid i'r brifysgol fynd ati yn bro-actif i'w hyrwyddo ac i annog Cymry i'w ddilyn – rwyf i a sawl myfyriwr arall o'r farn fod angen gwneud mwy o hyn, a hynny ar lefel bersonol yn hytrach na llythyrau cyffredinol amhersonol.

Ar nodyn fwy gobeithiol gallaf gadarnhau y bydd UMCA yn annog ein haelodau i ddilyn y cyrsiau Cymraeg a gynigir tra ar yr un pryd yn parhau i bwyso ar y brifysgol i ddatblygu cyrsiau Cymraeg. Cofier bod rôl allweddol gan farchnata yn hyn yn ogystal ag adain academaidd y brifysgol.

Gobeithiaf glywed eich ymateb yn fuan.

Yn gywir,

Rhys Llwyd
Swyddog yr Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

Copi at:
Steven Hughes – Llywydd UMCA
Richard Wyn Jones – SGC
Gwennan Creunant – SGC
Elin Royles – Darlithydd cyfrwng Cymraeg
Anwen Elias – Darlithydd cyfrwng Cymraeg
Roger Scully – Darlithydd cyfrwng Cymraeg
Aled Gruffydd Jones – Is-Brifathro a Chyfrifoldeb dros Addysg Gymraeg
Ioan Mathews – Swyddog yr Iaith Gymraeg Prifysgol Cymru
Noel Lloyd – Prifathro
Mari Elin Jones – Ysgol dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

No comments: