Addysg Gymraeg (2)
Nol yn Y BYD heddi – trio hel rhestr a chyfeiriadau enwogion cefnog o fyd Chwaraeon i anfon atynt i'w hannog i fuddsoddi yn y fenter. I bawb sy'n fy adnabod byddw chi'n gwybod yn iawn fod fy niddordeb mewn chwaraeon ddim yn mynd unrhyw pellach na fy obsesiwn nol yn y 90au gyda'r gem gyfrifiadur Championship Manager, clasur. Llawer o gymorth felly oedd help fy nghyd-faeswyr yn yr edefyn YMA wrth drio llunio rhestr.
Wedi gwneud ychydig bach mwy o ymholiadau gyda'r busnes cyrsiau Cymraeg fy adran eto heddiw. Wedi clywed theori gan rywun na allaf ei enwi fod llawer o'r gyntaf llynedd wedi gorfod mynd trwy gwrs craidd cyfrwng Cymraeg ofnadwy – roedd fy ffynhonnell yn ofni fod y profiad yna o bosib wedi rhoi llawer off dilyn cyrsiau Cymraeg yn yr adran byth eto.
Nawr mae hyn yn broblem fawr. Dwi wedi dechrau mynd ar ôl rhai oedd ar y cwrs yna i glywed y stori'n gyflawn. Dwi a'r 'ffynhonnell' o'r farn fod dyletswydd gan yr adran i glirio'r llanast ar ôl y llanast a wnaed ar y cwrs llynedd. Mynd ar ôl y bobl ma a'u hannog i ail gydio mewn cyrsiau Cymraeg.
Problem arall dwi mynd i drio ymchwilio mewn iddi ydy niferoedd yr adran Gymraeg yn Aberystwyth. Mae'n debyg (heb weld y ffigurau fy hun eto) fod niferoedd derbyn yr adran Gymraeg wedi syrthio yn reit ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf; mae hynny yn broblem yn ei hun OND mae'r broblem yn mynd i lefel arall ac yn effeithio ar adrannau eraill. Mae llawer, gan gynnwys Gwenllian, yn dewis astudio Cymraeg ond hefyd yn dewis rhai modylau Gwleidyddiaeth cyfrwng Cymraeg. Felly os ydy'r adran Gymraeg yn lleihau mae'n anorfod y bydd yna knock-on effect ar nifer o Gymry yn cymryd modylau Cymraeg yn yr adrannau eraill.
Dwi am fynd ati i ymchwilio os oes yna ostyngiad cyffredinol ym mhob Prifysgol o'r nifer o bobl sy'n astudio'r Gymraeg ynteu bod adran Gymraeg Aberystwyth yn colli myfyrwyr ar raddfa fawr i adran fwy trendi Caerdydd.
...ymlaen a'r ymchwil
4 comments:
S'mai Rhys,
Dwi'n cofio ti'n plygio 'Memory Sticks'(?) oedd am fod ar werth gan Y Byd yn ystod yr Eisteddfod. Doeddwn ddim yn rili dallt be fydda nhw dda i ar y pryd ond newydd sylwi pa mor handi fydda nhw ac eisiau un. Hawdd fyddai i mi brynnu un yn rhatach ac yn nes i adre, ond oes rhai ar ôl gan y Byd, ac os oes, elli'r eu prynnu trwy'r post os anfonai siec ac ella ychydig i gyfro'r cludiant?
Wrth gwrs!
Anfona siec o £17.50 at:
Dyddiol Cyf.
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth
SY23 1NN
Cofia roi slip yn yr amlen yn nodi ar gyfer be mae'r siec ac at ba gyfeiriad tisho ni ei anfon.
Gei di bost am ddim :)
Diolch am gefnogi.
Diolch Rhys
Heia Rhys,
fi di cal y dasg o neud ymchwil tebyg iawn i hyn yn rhinwedd fy swydd...
nai roi gwbo be wy'n 'i gal...
awe.
Post a Comment