4.9.05

Priodi, ty Gwenllian a Naws

Ro ni mewn priodas dydd Iau, Aled ffrind Coleg o Rydaman. Dim ond 22 yw e a dim ond 19 (!) ydy Cerys ei wraig. Gwasanaeth modern iawn yn yr eglwys, emynau newydd a band yn cyfeilio yn lle'r organ neu'r delyn draddodiadol. Yr unig Gymraeg getho ni yn y gwasanaeth oedd un darlleniad, trueni am hynny.

Ar ôl y gwasanaeth yn Llandybie ymlaen a ni i Westy Parc y Strade yn Llanelli am y wledd. Doedd y briodas ddim tan 3.30 felly doedden ni ddim draw yn Llanelli tan rhyw 6 a getho ni y bwyd yn reit handi wedyn. Tra gwahanol i amserlen arferol priodase OND rhaid mi ddweud mod i wedi hoffi y drefn yma – does dim byd gwaeth na hongian o gwmpas am oriau mewn priodas a tithe mewn siwt anghyfforddus!

Roedd y bwyd yn lysh a'r cwmni yn grêt. Wedi iddyn nhw glirio'r byrddau dechreuodd y band chwarae cyfyrs – y clasuron i gyd, 'She's electric', 'I belive in a thing called love' – roedd yr hits yn ddi-ddiwedd. Roedd rhaid i ni adael tua 11.30 oherwydd y daith oedd o'n blaenau (fi, Gwenllïan a Mr Rhun Emlyn) nol i Aberystwyth. Wnes i rili fwynhau y briodas, hollol chilled out – dyma oedd y briodas gynta 'ffrind' fel petae i fi fod iddo, a finnau'n 20 gobeithio bydd llawer mwy o rheiny i ddod yn y blynyddoedd nesa! Sw ni'n licio priodi rywbryd fyd.

Pob bendith i Aled a Cerys – cwl bod nhw'n dod i fyw yn Aber fyd!

Ddoe buesei yn helpu Gwen i symud stwff mewn i'w tŷ newydd yn Parc-y-Llyn – roedd en ddiwrnod hyfryd ac er mae cario bocsys o ni mi o ni'n joio cal neud hynny yn yr haul yn hytrach na bod yn y swyddfa! Ma Gwen, Howys a Catrin Peth yn byw yn un o'r tai newydd yna ger McDonalds blwyddyn nesa chi'n gweld – tŷ neis iawn; ond braidd yn bell i gerdded o Bantycelyn!

Naws neithiwr, roedd ein hofnau na fydde neb yn troi fyny yn ddi-sail, diolch byth. Roedd y lle'n gyfforddus llawn ac fe berfformiodd y bandiau yn wych. Odd Tangwystl yn ffab, gobeithio gai glywed nhw eto yn fuan. Dan Lloyd a Mr Pinc a perfformiad proffesiynol iawn a diolch hefyd i Dan am helpu fi mas dar offer sain. Droisei fyny ac odd rhywun wedi bachu (h.y dwyn) hanner y ger, felly oni bai fod stwff yn digwydd bod gan Dan yn y car byddem ni di bod mewn picil!

No comments: