6.9.05

Kynan Kenavo... 'Back to School'!

Heddiw ma Cynan fy mrawd yn dychwelyd i'r ysgol. Dwi'n siwr y bydd en brofiad rhyfedd ar ol ei 'summer of fame' e fel rapiwr ifanc. Dwi jyst yn medru dychmygu'r wers Gymraeg bore ma.

Athrawes: “Reit pawb rownd mewn cylch yn son be chi di neud dros y gwylie, Dafydd ti gyntaf”

Dafydd: “Fuesi yn ware pel-droed yn parc dar bois”

Athrawes: “Neis iawn, Tomos...”

Tomos: “Fuesi i Butlins Pwllheli da Mam a Dad.”

Athrawes: “Sdim byd gwell nagoes e, Cynan be amdano ti, be nes di dros yr haf?...”

No comments: