8.9.05

Haf yn hedfan heibio

Mae hi di gwawrio arnai heddiw cyn lleied o amser sy tan bod Coleg yn ail-gychwyn. Dim lot o amser ond digonedd sy rhaid mi wneud cyn wsnos y glas. Dwi'n trio paratoi llawlyfr i'r ymgyrch Coleg Ffederal erbyn wsnos y glas; a ma gennai beth i gal yn barod i UCCA yn ogystal.

Penwythnos yma dwi'n mynd lawr i Gaerdydd i weld Gruff, brawd Gwenllïan yn perfformio gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru – fo ydy Machiavelli yn y ddrama! Penwythnos nesa dwi'n mynd ffwrdd efo teulu Gwenllïan, i Ddulyn am noson, yna mlaen i Baris am dair noson yna nol i Ddulyn am noson arall.

Cyfarfod diddorol da Ioan Williams bore ma, wnai adrodd yr hanes rywbryd eto.

No comments: