Machiavelli a'r Guardian
Fusesi lawr yng Nghaerdydd dros y Sul, prif bwrpas yr ymweliad oedd mynd i weld Theatr Ieuenctid Cymru yn perfformio Botticelli's Bonfire. Drama yn dilyn helynt Machiavelli a Savonorola yn Florence. Gruffydd, brawd Gwenllïan, oedd Machiavelli. Roedd e'n ddrama gymhleth ond dwi'n meddwl i mi ddilyn y stori yn weddol – tipyn o help mod i wedi astudio tipyn o Machiavelli yn Coleg. Dwi'n amau os oedd y cast i gyd, a'r dramodydd hyd yn oed, yn deall y cefndir hanesyddol.
Des i nol fyny i Aber neithiwr a rhoi lifft i Mr Nwdls!
Y Guardian wedi ail-lawnsio ar ffurf 'Berliner' heddiw...
Edrychwch ar y fideo Quicktime yma
Diddorol iawn oherwydd perthnasedd y digwyddiad i'r BYD. Dwi'n meddwl mae ffurf nes at dabloid na'r Berliner fydd Y BYD - hynny yn bennaf oherwydd cyfyngiad technolegol. Hynny yw ni fydd gan Y BYD argraffdy eu hunain a hyd y gwn i does dim argraffdy arall yng Nghymru (o bosib ym Mhrydain ac eithio y Guardian) a pheiriannau argraffu maint y Berliner. Fe fuddsoddodd y Guardian gwpwl o filiynau yn gosod yr argraffdy newydd fyny er mwyn medru argraffu maint Berliner - bydd gan y BYD ddim arian i adeiladu argraffdy rhaid i'r BYD felly ddewis rhwng y ddau fformat sydd i'w gynnig gan weisg Gymru, sef broadsheat neu dabloid.
No comments:
Post a Comment