22.9.05

O Baris i Banty (swnio fel drama gan Gwyneth Glyn?!)

Dwi nol adref am noson cyn gadael am Bantycelyn am flwyddyn arall, a'r olaf yn y lle. Dwi newydd fod ym Mharis a Dulyn efo teulu Gwenllïan – amser grêt – digonedd o Stêc a gwin coch.

Yma yn fy nisgwyl ar ol dod nol oedd LP newydd MC Seizamwndo. Mae'r LP yma yn hollol wych – Dyl Mei ar ei orau gyda'r gerddoriaeth a lirics hollol wych Deian yn spot on.

Ta beth, blogiad gyda mwy o ddweud a lluniau o Baris o bosib mewn ychydig ddiwrnodau ar ôl i mi symud i Bantycelyn.

No comments: