24.9.05

Pantycelyn - Aled Jones - UCCA

Dwi bellach nol ym Mhantycelyn. Wedi noson flinedig o gario bocsys, sgrins, argraffydd a dillad fyny i drydydd llawr yr adeilad dwi o'r diwedd wedi gosod fy ngwersyll am y flwyddyn.

Dwi nol ym Mhantycelyn chydig yn gynt na'r rhelyw o fyfyrwyr oherwydd mod i'n mynychu hyfforddiant pwyllgor gwaith yr undeb. Bore ma fe wnaethom ni gyfarfod gyda pobl bwysig y Brifysgol. Roedd hi'n braf cael cyfarfod Aled Jones a Noel Lloyd – roedden nhw'n dod drosto yn 'iach' iawn parthed Cymreictod ar Gymraeg; gobeithio y gallw ni fel myfyrwyr gyd-weithio gyda nhw yn effeithiol eleni. Doedd Lyn Pickett ddim yna, hi yw'r dirprwy is-Ganghellor sydd llai 'iach' yn ôl pob sôn.

Dwi wrthi yn ddiwyd ar hyn o bryd yn dylunio gwefan newydd i'r Undeb Cristnogol. Dy ni wedi prynu y domain www.undeb-aber.com (dydy'r un newydd ddim yna eto) – syniad eithaf clyfar dwi'n meddwl! Hon dwi'n meddwl wedi i fi lansio yr un newydd fydd yr un mwyaf proffesiynol i mi ddylunio hyd yma.

No comments: