26.9.05

Sfferau gwaith y Cristion

Pwnc dwi am drafod yn fyr heno ydy'r cwestiwn a oes yna fath beth a swydd seciwlar? Cododd y cwestiwn yn yr Ysgol Sul bore ma dan arweiniad yr Athro Geraint Gruffydd. Dwi di tybio ers tro nad oes yna fath beth a swyddi 'Cristnogol' (e.e. Cenhadon, Gweinidogion, Efengylwyr) ar un llaw a swyddi seciwlar (e.e. Athro neu Feddyg) ar y llaw arall. Dwi di bod o'r farn fod pob swydd beth bynnag foi natur yn swydd y dylid ymgymryd a hi gerbron Duw – ac fod pob swydd yn un 'Gristnogol' ar un ystyr i'r Cristion. Roeddwn ni'n falch iawn o weld fod Geraint Gruffydd yn cyd-weld gyda mi ar y mater yma.

Dwi di bod yn gwneud lot o fusnes seciwlar dros y blynyddoedd – gwaith gyda Cymdeithas yr Iaith yn un enghraifft. A rhaid mi gyfaddef mod i wedi teimlo yn is-raddol i ryw raddau yn y cylchoedd Efengylaidd dwi'n troi ynddi. Hynny yw fod person ifanc sydd yn dewis treulio ei holl amser yn canolbwyntio ar waith 'Cristnogol' (e.e. Mynd i weithio i UCCF am flwyddyn) yn cael tipyn mwy o ffws a chlod nac rhywun fel fi sydd wedi cael fy ngalw i waith mwy seciwlar.

Diwedd y dydd mae'r Cristion i fod yn dystiolaeth ym mhob swydd ac ym mhob sefyllfa beth bynnag foi natur. Cymer Geraint Gruffydd a Bobi Jones fel enghraifft o hyn – dau ffigwr Cristnogol mawr yng Nghymru ond fuodd yn gweithio yn y sffĂȘr seciwlar. Tybiaf eu bod nhw trwy eu tystiolaeth cryf yn eu swyddi academaidd seciwlar wedi cael mwy o ddylanwad Cristnogol ar Gymru na sawl gweinidog ordeiniedig dyweder.

Dwi newydd bicio mewn i'r Cwps ble roedd aelodau UMCA yn canu emynau – i ddyfynnu un gweinidog “Dechrau canu, diwedd canmol”! Petai ond mwy o bobl yn ystyried y gwirioneddau sydd yn yr emynau ma nhw'n eu canu, efallai wir y trawith geiriau rhai o'r emynau rywun heno – Duw a wyr.

...roedd y canu yn dda iawn cofiwch.

No comments: