Rhys yn Huw Owen a MC Peryg yn y Ty!
Dyma'r postiad cyntaf ers tro. Dwi ddim cweit yn siŵr pam, dwi ddim wedi bod mor brysur a hynny, dim byd i ddweud o bosib? Wel ma na gwpwl o bethau da fi ddweud nawr.
Dwi di ymddiswyddo o'r BYD wythnos yma, a rhag ofn fod hacks y BBC yn darllen fy mlog na does yna ddim stori gyfrinachol/sgandal yma; ymddiswyddo oherwydd fod rhaid i mi roi mwy o amser i'm gwaith academaidd y gwnes i nid oherwydd unrhyw reswm arall. O ganlyniad dwi'n treulio llawer mwy o amser yn y llyfrgell, dyna ble ydw i nawr a dweud y gwir – yn llyfrgell Huw Owen ar y PowerBook yn syrffio'r we yn defnyddio WiFi y coleg – ma technoleg yn grêt!
Ydych chi wedi llwytho sioe Radio Amgen wythnos yma? Recordiad o areithiau Rali Deddf Iaith nesi penwythnos diwethaf ydyn nhw. Grêt. Dwi wedi dechrau'r broses o'r diwedd o lwytho rhaglenni recordio cerddoriaeth ar fy Nghyfrifiadur newydd – eisoes dwi di recordio dau drac gyda MC Peryg (sioe Radio Amgen ganddo cyn bo hir gobeithio) ac yn gobeithio dechrau recordio traciau newydd Kenavo cyn bo hir.
Reit at y gwaith nawr – Schmit yw'r athronydd dwi'n ei astudio p'nawn ma.
No comments:
Post a Comment