16.10.05

Eciwmeniaeth Efengylaidd?! - falle? falle ddim?

Buesi mewn cynhadledd yn y Bala heddiw. O bosib mi gofiwch chi i mi nodi mewn adroddiad ar fy mlog fis Awst am ddyfodol Mudiad Efengylaidd Cymru (cliciwh yma i ddarllen y blogiad dan sylw) – un peth nodais oedd fy nghefnogaeth i syniad Hywel Meredydd (tipyn o gymeriad, Gweinidog yn Llangefni ac un sydd wedi bod yn gwneud gwaith Cymraeg i MEC ers blynyddoedd) fod angen i fudiadau uniongred gyd-weithio mwy.

Roedd y gynhadledd heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rhyw fath o fforwm ydoedd i wahanol fudiadau Cristnogol adrodd wrth eu gilydd beth pa waith oedden nhw'n ei wneud yn y Gymru Gymraeg. Roedd siaradwyr o:

Gobaith i Gymru, Undeb y Gair, Y Gidioniaid, UCCF, Mudiad Efengylaidd Cymru, Cyngor Ysgolion Sul.

Mi drafodai bob un yn ei tro.
(Os nac oes amser gyda chi ddarllen bob un gai awgrymu yr un ar UCCF fel yr un mwyaf diddorol/dadleuol!)

GOBAITH I GYMRU

Siaradwr: Arfon Jones
Gwefan: www.gobaith.org

Rhaid mi gyfaddef fod gennai dipyn o feddwl o Arfon; i ddechrau yn Arfon fe nes i ffeindio Cristion brwdfrydig oedd hefyd wedi ymhél a gwaith Cymdeithas yr Iaith a tor-cyfraith fel y dwi yn eu gwneud. Er mod i'n argyhoeddedig fod Duw wedi fy arwain i wneud gwaith gyda Cymdeithas yr Iaith (ac fod ewyllys Duw yn arwain y Cristion i dorri-cyfraith gwlad hyd yn oed os oes angen) roedd e'n grêt cael cysur fod Duw wedi arwain sawl Cristion arall i'r un cyfeiriad dros y blynyddoedd.

Roedd Arfon yn arfer gweithio i'r Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru, yn ystod ei flynyddoedd gyda hwy ni chafodd lawer o gyfle i wneud gwaith Cymraeg. Roedd hyn yn pwyso ar ei galon – ac roedd yn teimlo'r alwad a'r baich i fynd nol i wneud gwaith Duw ymysg y Gymru Gymraeg. Yn y diwedd fe gymerodd y 'leap of faith' ac ymddiswyddo o'r Gynghrair Efengylaidd er nad oedd yna unrhyw swydd arall fel y cyfryw yn aros iddo. Yn diwedd fe ddaeth yna griw at ei gilydd er mwyn cynnal Arfon er mwyn iddo fedru gwneud gwaith Cymraeg – sefydlodd y grŵp yma 'Gobaith i Gymru' a drwy wneud hynny ddechrau cyflogi Arfon i wneud gwaith Cristnogol Cymraeg llawn amser.

Nid Efengylu ydy pwrpas/nod/amcan Gobaith i Gymru per se OND yn hytrach ei nod ydy arfogi Cristnogion a Chapeli Cymraeg i Efengylu a Chenhadu'r Gymru Gymraeg. Prif brosiect Gobaith i Gymru ydy y fersiwn cyfoes o'r Beibl medr ei ddarllen ar www.beibl.net – ymysg pethau eraill mae'r mudiad yn paratoi gwasanaethau/deunyddiau Cristnogol ar gyfer ysgolion ac hefyd yn trefnu adnoddau addoli i Gapeli megis sleidiau Power Point.

Mae gan Arfon a Gobaith i Gymru weledigaeth iach a chlir – dechrau da i'r gynhadledd!

UNDEB Y GAIR

Siaradwr: Ruth Lewis
Gwefan: www.scriptureunion.org.uk

Cyn dod i'r gynhadledd dyma oedd y mudiad oeddwn ni'n gwybod lleiaf ynglŷn ac ef (Cliciwch YMA i ddarllen am y mudiad). Anodd fyddai hi unrhyw un drechu Arfon Jones parthed ymrwymiad i'r Iaith Gymraeg o ystyried ei fod wedi bod mewn cell dros yr iaith – mae Ruth wedi dod yn gydradd ac Arfon oliaf! Fe aeth Ruth ati i ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn ac roedd hi'n fraint cael ei chlywed hi'n gwneud ei cyflwyniad i bob pwrpas yn rhugl heddiw – mae'r bobl ma sy'n dysgu Cymraeg fel ail-iaith yn arwyr i mi. Roedd hi'n amlwg i mi fod gan Ruth galon fawr dros Gymru ei chenedl.

Ysywaeth, prif faes gwaith Ruth ydy gwaith gyda phlant – mae hi'n cynnal clybiau plant yn ystod gwyliau ysgol yn ogystal a Chlybiau Hwyl Hwyr mewn ysgolion. Dwi ddim yn arbenigwr ar waith plant nac ychwaith yn teimlo unrhyw alwad i gynorthwyo gwaith o'r fath, serch hynny roedd adroddiadau Ruth yn swnio'n obeithiol iawn – gwych o beth fod plant yn cael dysgu gwirioneddau'r Beibl o oedran ifanc iawn.

UCCF

Siaradwr: Dafydd Job
Gwefan: www.uccf.org.uk

Pan glywais yn gyntaf mae Dafydd Job oedd yn siarad ar ran UCCF bu rhaid i mi ofyn i fy hun “Pam Dafydd Job?” - er gwybodaeth Gweinidog ym Mangor ydy Dafydd. Deallais wedyn nad oedd unrhyw un o staff UCCF yng Nghymru yn medru mynychu y gynhadledd. Digon teg – pam na ofynnwyd felly i Lywydd un o'r Undeb Cristnogol Cymraeg i siarad? Roedd yna un Llywydd (fi) yn bresennol yn y gynhadledd ac buaswn ni wedi bod wrth fy modd yn rhannu gweledigaeth yr Undeb. Deallais yn y diwedd fod Dafydd ar gyngor ymgynghorol UCCF – serch hynny credaf y byddai cael rhywun oedd yn fyfyriwr wedi rhoi adroddiad gwell o lygad y ffynnon fel petae.

Peidiwch a fy nghamddeall i nawr, roedd popeth ddywedodd Dafydd yn deg ac yn gywir am UCCF yn genedlaethol OND roedd yr hyn aeth ymlaen am Gynadleddau UCCF i arweinwyr ayyb... braidd yn amherthnasol i gynhadledd oedd i drafod cenhadaeth i'r Gymru Gymraeg. Mae'r cynadleddau yma yn rai wedi ei hanelu at Undeb Cristnogol ar draws Prydain, neu oliaf at rai Saesneg yng Nghymru ac felly yn amherthnasol i raddau helaeth i'r genhadaeth benodol i Gymru Cymraeg sydd gan ein hundeb ni yn Aber. Ac eithrio sôn am Dost a Te adeg y Ddawns Ryng-Golegol ni soniwyd yn benodol am y gwaith Cymraeg.

Byddai digon gyda mi i sôn amdanyn nhw. Er enghraifft maen ran allweddol o'n cenhadaeth ni fel undeb yn Aber ein bod ni YN Y BYD e.e. Dwi y llywydd yn Swyddog Iaith Gymraeg Urdd y Myfyrwyr, mae is-Lywydd yr Undeb Cristnogol yn Is-Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae pobl yn gwybod pwy ydym ni ac yn deall ein bod ni'n 'efengyls' ac mewn digwyddiadau fel Tost a Te fe wnaiff bobl ein holi ni am ein ffydd (dwi'n ffeindio drwy fod 'yn y byd' does dim hyd yn oed angen tost a te i gael cyfle i drafod ein ffydd). Dyna yw ein gweledigaeth – bod yn y byd nid yn mela mewn digwyddiadau CU ac UCCF bob nos Wener tra bod ein Cyd-Gymru yn rhywle arall – ma rhaid i ni fod yn eu canol os am rannu ein ffydd.

Gai bwysleisio eto fod yr hyn ddywedodd Dafydd am UCCF yn grêt ac yn deg ond mewn difri faint o'r gwaith yna sy'n berthnasol i'r genhadaeth i'r Gymru Gymraeg – mae sefyllfa'r Gymru Gymraeg yn wahanol ac yn unigryw – wn i ddim i ba raddau mae UCCF yn sylwi hynny.

Enghraifft i chi, dywedodd Llywydd yr Undeb Cristnogol Saesneg wrth aelod o'r Undeb Cristnogol Cymraeg wythnos diwethaf.

“Seeing as there arn't much of you, your more than welcomed to just join us.”

Doedd y crwt jyst ddim yn deall.

*********

Well i mi drafod y tri mudiad arall yn y postiaid nesaf mae hwn wedi mynd yn un braidd yn hir!

No comments: