Deffro i gerddoriaeth
Ble dwi wedi bob dudwch? Dim postiad ar y blog ers 13 o ddiwrnodau! Record o bosib i mi. Wel dwi wedi bod yn gweithio fflat owt ar y rownd gynta o draethodau eleni. Un a'r syniadaeth wleidyddol Tudur Jones, roedd rhaid llunio amlinelliad o'r traethawd hir bydda i'n gwneud arno wedi'r Nadolig. Ac yn ail traethawd ar syniadaeth wleidyddol Schmitt ac Arendt, amlinelliad oedd hwn eto mae'r prif un fod i mewn erbyn Rhagfyr. Dwi hefyd wedi bod yn paratoi fy erthygl ddiweddar i Barn – Seimon Brooks y golygydd wedi gofyn i mi wneud erthygl am Bryn Fon; dwi'n gobeithio bydd hi'n ddifyr – bydd hi'n ymddangos yn rhifyn 'dolig.
Wythnos yma dwi'n taflu'r shift o'r gwaith academaidd at gerddoriaeth! Hip-hip hwre! Wedi bod yn gweithio a'r ffansin naws – medrwch is-lwytho PDF ohono FAN YMA (rhybudd: mae'n ffeil fawr 0.9Mb) oherwydd fod Naws nos fory ac yna y Ryng-gol Nos Sadwrn – Kenavo yn chwarae felly bydd angen i mi gymysgu ein set ryw ben heddiw neu fory – byddw ni'n gwneud oliaf un gan newydd.
Ydych chi wedi is-lwytho'r sioe MP3 o'r naws diwethaf eto – o fan hyn.
Am y tro – hwyl.
No comments:
Post a Comment