7.11.05

Ryng-gol (o gefn y llwyfan...)

Wedi mwynhau y ddawns ryng-golegol. O safbwynt Kenavo fe aeth hi'n dda iawn, yn bles iawn gyda ymateb y dorf. Diolch i'r dorf a diolch i Stif UMCA am ofyn i ni chwarae.

Ond dyma adrodd ychydig bach o hanes y Ddawns Ryng-gol o bersbectif ychydig bach yn wahanol – adroddiad o gefn llwyfan gan un a fuodd yno. I'w ddarllen a pinshed o halen a chydig bach o hiwmor/beirniadaeth Dim Lol(aidd) o nawr mlaen.

Y Ddawns Ryng-gol ydy un o'r ychydig gigs yn y sin Gymraeg sy'n 'broffesiynol' ac ble mae'r bandiau yn cael ei trin fel siwperstars go-iawn. Mae'r bandiau yn cael:

  • Talu'n deg iawn (for ddy record – dewis bod yn uwch ar y bil a pheidio cael ein talu gwnaeth Kenavo)
  • Mae'r system sain heb ei ail
  • Rider (cwrw, 'brecon carreg', coca cola ayyb... am ddim)
  • Bwyd am ddim
  • Ardal 'cefn llwyfan'
  • 'Guest List'

Ond yn anorfod mae'r sefyllfa yn troi yn reit, wel be dduda i, 'who's who' efallai. O fewn ychydig funudau o gyrraedd trodd Huw Evans a chriw Bandit fyny i recordio, er ein bod ni wedi cael ffrae fach ar maes-e unwaith am bolisi iaith gigs dwi'n meddwl fod Huw yn ffoi clĂȘn iawn. Y digwyddiad 'who's who' nesa oedd galwad gan Eifion, basydd y Poppies, yn gofyn i mi drefnu fod Gethin Evans (drymar Kentyucky AFC) ar y 'guest list'.

Roedd yr ardal 'cefn llwyfan' i'r bandiau gadw eu offer mwy na dim (a newid mewn i wisgoedd Goastbuster os oedde chi gyda Kenavo), ac nododd Stif UMCA a Dan Slaps (un o reolwyr yr undeb) fod hon yn reol lem oherwydd nad oedden nhw am i'r cefn droi yn “Private party area” i ddyfynnu Slaps. Ond rhywsut drwy gydol y noson roedd mwy o mwy o griw un band penodol yn 'ymddangos' cefn llwyfan ac yn helpu eu hunain i'r cwrw a'r 'brecon carreg' gwerthfawr. Wn i ddim sut fu iddyn nhw gael y passes – jest gobeithio bod nhw wedi mwynhau eu noson ym myd 'siwperstars'!

Dwi'n meddwl fod hi'n beth iawn i fandiau gael rider (cwrw/bwyd am ddim), yn enwedig mewn diwydiant sydd ddim yn talu'n deg o gwbwl i'w cerddorion. Serch hynny roedd na deimlad sawrus pan bo rhai yn cael parti gyda'i ffrindiau a cwrw am ddim ar draul arian prin Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – bydd fe ymddengys yn torri nol ar staff eleni. Er tegwch ni enwaf neb, 'what goes on tour stays on tour' chadal yr hen ddywediad.

Ac i orffen os oes rhywun wedi gweld gwisg Goastbusters ers nos Sadwrn – plis cysylltwch.

No comments: