Elain yw coden newydd y Berllan
Pa deulu? Wel teulu y Berllan Gymraeg! Mae Elain fy chwaer wedi archebu eu cyfrifiadur MAC cyntaf hi heddiw – hwre. Wedi misoedd o werthu MAC's fe lwyddais i berswadio hi eu bod nhw yn gyfrifiaduron cymaint gwell. Roedd Elain, sy'n berson 'arty', wedi ffansio un ar sail eu hedrychiad ers sbel – dwi'n cofio hi'n trio perswadio dad a fi i brynu iMac G3 flynyddoedd yn ôl jest oherwydde ei edrychiad arloesol ar y pryd (llun i'r ochr). Ac ers i mi gael y PowerBook fe welodd hi fod nhw yn gyfrifiaduron lot gwell ac yn sicr yn fwy cwl.
Ond wrth fynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd cafodd hi draed oer oherwydd nad oedd y brifysgol yn awgrymu iddyn nhw gael MAC's oherwydd nad oedden nhw'n debygol o redeg rhagleni a rhedeg ar rwydweithi y Coleg. Roedd Aberystwyth yn dweud yr un peth wrtha i pan ges i MAC gyntaf – jest ofn rhywbeth gwell gwahanol man nhw + eu bod nhw wedi eu rhwymo i gytundeb oes gyda Microsoft mwy na thebyg.
Ysywaeth yn y diwedd fe aeth Elain am yr iBook. Dyma oedd yr archeb...
iBook G4 – 12”
- 1.33Ghz
- 512 Ram
- 60Gb
- Mighty Mouse

Newydd da hefyd fod Open Office 2.0 ar gael yn Gymraeg i'r MAC bellach!
No comments:
Post a Comment